Skip to main content

Cronfa Cymru Actif

Gyda Chronfa Cymru Actif, gall clybiau a sefydliadau cymunedol sydd â ffyrdd newydd o gyflwyno gweithgareddau a phrosiectau chwaraeon wneud cais am gyllid. Gall clybiau hefyd brynu offer hanfodol fel peli, bibiau, gwisg, ac offer chwaraeon arall, a gallant hefyd gyllido cyrsiau hyfforddi ar gyfer eu gwirfoddolwyr a all alluogi mwy o bobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol.

 

Os oes gennych chi gais arfaethedig gyda ni eisoes, gallwch chi fewngofnodi o hyd i’n porthol ceisiadau.

Diweddariad Pwysig: Cronfa Cymru Actif

Eleni, mae Cronfa Cymru Actif wedi gweld mwy o geisiadau nag erioed o’r blaen. Mae’n wych gweld cymaint o glybiau chwaraeon ledled Cymru yn manteisio ar y gronfa hon i helpu i gael mwy o bobl yn eu cymunedau yn actif. 

Fodd bynnag, mae hyn yn golygu ei bod yn cymryd ychydig mwy o amser i brosesu ceisiadau. Mae unrhyw geisiadau a dderbyniwyd ar ôl 31 Ionawr 2024 yn cael eu prosesu nawr a bydd y canlyniad yn cael ei rannu yn fuan.

Beth yw Cronfa Cymru Actif?

Mae Cronfa Cymru Actif yn rhaglen grant sy’n helpu clybiau chwaraeon a sefydliadau cymunedol ledled Cymru i wella mynediad at weithgarwch corfforol. Mae'n darparu rhwng £300 a £50,000 i gefnogi prosiectau sy'n hyrwyddo cydraddoldeb, cynaliadwyedd ac arloesi mewn chwaraeon.

Y peth gorau... 

Gall pob clwb neu sefydliad nid-er-elw yng Nghymru wneud cais, dim ots beth yw eu maint neu leoliad, os oes gan eich clwb yr holl ofynion perthnasol i gyllid yn eu lle.

 

Beth fyddwn yn ei gefnogi?

  • Prynu offer sy'n galluogi mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon.
  • Uwchsgilio gwirfoddolwyr mewn meysydd lle nad oes gan eich clwb arbenigedd neu brofiad.
  • Datblygu prosiectau arloesol sy'n hyrwyddo gweithgarwch corfforol mewn ffyrdd newydd neu wahanol.
  • Defnyddio technoleg i gynnwys mwy o bobl mewn gweithgarwch corfforol.
  • Estyn allan at bobl sydd ar hyn o bryd yn cael eu tangynrychioli mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

PWY SY'N GYMWYS?

I fod yn gymwys ar gyfer Cronfa Cymru Actif, rhaid i'ch sefydliad fod fel a ganlyn:

  • Clwb chwaraeon neu sefydliad cymunedol nid-er-elw.
  • Cael ei gynnal yng Nghymru a bod ar gyfer pobl Cymru yn bennaf.
  • Mae’r cyllid yn gymwys ar gyfer prosiectau neu weithgareddau sydd heb ddechrau eto.
  • Defnyddio’r arian ar gyfer y gymuned gyfan, nid dim ond er budd ysgol benodol.
  • Bodloni gofynion y ffurflen Mynegi Diddordeb.
  • Hyrwyddo cydraddoldeb, cynaliadwyedd ac arloesedd mewn prosiectau chwaraeon.
  • Dangos sut bydd y prosiect yn cynyddu mynediad i weithgarwch corfforol.

Sut i wneud cais? 

Gallwch wneud cais gyda ni ar-lein. Llenwch ein Ffurflen Mynegi Diddordeb a byddwn yn cysylltu â chi o fewn 2 ddiwrnod gwaith gyda rhagor o wybodaeth am wneud cais.

Dewch o hyd i mwy o wybodaeth yma am sut i wneud cais am y Gronfa Cymru Actif.

Cyn i chi wneud cais, rydym yn awgrymu eich bod yn cysylltu ag o leiaf un o'r grwpiau hyn i gael arweiniad gyda’ch cais:

  • Eich corff rheoli cenedlaethol os oes gennych chi un.
  • Adran datblygu chwaraeon eich awdurdod lleol.
  • Unrhyw sefydliadau cefnogi eraill perthnasol.

Cofiwch bod posib cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg neu yn Saesneg ac na fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Rydym yn argymell yn gryf bod y rhai sy'n gwneud cais am gyllid gyda ni yn darllen ein telerau ac amodau ar gyfer grantiau

Os oes gennych chi gais arfaethedig gyda ni eisoes, gallwch chi fewngofnodi o hyd i'n porthol ceisiadau.

Sut mae’r cyllid yn cael ei ddyfarnu?

Y dyfarniad isafswm yw £300 a’r dyfarniad uchafswm yw £50,000*.  

Mae’r cyllid yn cael ei ddyfarnu ar raddfa symudol:

  • Grant o 100% hyd at £10,000
  • Grant o 90% ar gyfer dyfarniadau rhwng £10,001 a £25,000
  • Grant o 80% ar gyfer dyfarniadau rhwng £25,001 a £50,000

* Bydd angen i chi wneud cyfraniad o 10% ar gyfer grantiau dros £10k neu 20% dros £25k.

Beth sy'n digwydd ar ôl i mi wneud cais? 

Byddwn yn adolygu eich ffurflen ac yn ceisio gwneud penderfyniad o fewn 2 ddiwrnod gwaith. 

BLE GALLAF GAEL CEFNOGAETH?

Mae gennym amrywiaeth o adnoddau i gefnogi clybiau chwaraeon a gwirfoddolwyr yng Nghymru. Ewch i'n tudalen Adnoddau ni am gyngor i helpu i redeg eich clwb yn effeithiol a datblygu, a all fod yn ddefnyddiol yn eich cais.

SUT I GYSYLLTU Â NI

 

Gallwch anfon e-bost gydag ymholiadau atom ni arBEACTIVE@SPORT.WALES

Neu ffonio’r llinell gymorth ar 0300 3003102, dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 10:00 a 12:30 ac 1:15 a 16:00.

 

Os nad ydych yn gallu cael gafael ar aelod o'n tîm, arhoswch ar y lein oherwydd gall ein gwasanaeth neges llais fod o gymorth hefyd y tu allan i'n horiau gwaith.

Beth sy'n digwydd ar ôl i mi wneud cais?

Byddwn yn adolygu eich cais ac yn ceisio gwneud penderfyniad o fewn 20 diwrnod gwaith.

Mwy o gefnogaeth

Mae gennym amrywiaeth o adnoddau i gefnogi clybiau chwaraeon a gwirfoddolwyr yng Nghymru. Ewch i'n tudalen Adnoddau am gyngor i helpu gyda gweithredu eich clwb yn effeithiol a’i ddatblygu, a all fod yn ddefnyddiol yn eich cais. 

Gwyliwch ein hastudiaeth achos diweddaraf

Sign-up to our funding and support newsletter below.

* ofynnol