Skip to main content

Gymnasteg

Modiwl 1

Modiwl Gymnasteg 1 – Yn hybu datblygiad corfforol dysgwyr 3 i 7 oed ac yn gwneud gymnasteg yn hygyrch i athrawon a dysgwyr. 

Adnodd: Modiwl Gymnasteg 1 
Pwrpas: Hybu datblygiad corfforol dysgwyr 3 i 7 oed a gwneud gymnasteg yn hygyrch i  athrawon a dysgwyr.

Crynodeb o’r cynnwys:

 

Gweithgareddau Addysgu’r Corff: paratoi a chryfhau cyrff drwy reoli pwysau'r corff mewn gweithgareddau a gemau.

Gweithredoedd sylfaenol: teithio, neidio a glanio, trosglwyddo pwysau o draed i ddwylo, cydbwyso, troi, rholio, dringo a siglo

Amrywiaeth: cyflymder, cyfeiriad, lefel, siâp

Ansawdd: rheolaeth, eglurder siâp, cydsymudiad, hyder, tensiwn y corff, rhwyddineb 

Continwwm addysgu’r corff 

Cyfarwyddyd ar ddefnyddio cyfarpar: trin cyfarpar, syniadau cyfarpar bach, offer, cynlluniau cyfarpar a dilyniannau ar gyfarpar

6 uned waith chwe sesiwn yr un

Cyfarwyddyd clir ar gyfer cynllunio i ddefnyddio RECIPE fel strwythur gwersi.

 

Adnoddau corfforol i'w lawrlwytho: 

Gweithredoedd Sylfaenol

Gweithgareddau Addysgu’r Corff

Gweithgareddau Addysgu’r Corff – cardiau gwag – ar gyfer lluniau o ddysgwyr i’w defnyddio

RECIPE

Trefniadau gofodol

Cardiau amrywiol

Cardiau bingo 

Defnyddio conau

Straeon addysgu’r corff 

 

CD Rom Modiwl Gymnasteg 1 gyda gwybodaeth ehangach a fersiwn electronig o gardiau sgiliau a chardiau gweithgarwch.

Nodweddion Trosglwyddadwy Arwyddocaol:

 

Gweithgareddau Addysgu’r Corff

Datblygu gweithgareddau / dilyniannau a sgiliau

RECIPE

Adeiladu a mireinio dilyniannau

Continwwm addysgu’r corff 

Straeon addysgu’r corff 

Cyfarwyddyd ar ddefnyddio cyfarpar – mae neges yr ysgol gyfan yn berthnasol i Fodiwlau 1, 2, 3 a 4

 

Sut mae’r adnodd yn bodloni gofynion y cwricwlwm newydd ar hyn o bryd:

 

Ystyried anghenion datblygu’r dysgwyr gyda’r dysgwyr i gyd yn gallu cymryd rhan yn llwyddiannus yn y gweithgareddau. 

 

Cyfannol a datblygiadol ei natur.

 

Cyfleoedd i ddysgwyr archwilio a deall problemau a thasgau (e.e. cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau dan arweiniad dysgwyr a gweithgareddau dan arweiniad ymarferwr).

 

Hyder a Chymhelliant
DisgyblionAthrawon / ymarferwyr
Mae helpu plant i ddatblygu eu brwdfrydedd dros symudiad yn rhoi hyder iddynt ddal ati i fod yn actif yn gorfforol.Mae’n rhoi i athrawon y sylfaen a’r hyder y gallant gael yr adnoddau i addysgu’r MDaPh hwn, ac yn eu cymell i wneud hynny. 
Medrusrwydd
DisgyblionAthrawon / ymarferwyr

Datblygiad corfforol gweithgareddau a gemau addysgu'r corff.

Mae dysgu sgiliau symud allweddol yn meithrin mwynhad ac ymgysylltu gydol oes â chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Adeiladu dilyniannau gan ddefnyddio BSA.

 

Mae'n cynnig profiad pwnc a methodolegol a sgiliau ystafell ddosbarth cyffrous.

Gwybodaeth a chyfarwyddyd am bob BSA, gan gynnwys ar gefn y cardiau sy’n cael eu dangos i’r dysgwyr. 

Strwythur RECIPE

Gwybodaeth a Dealltwriaeth
DisgyblionAthrawon / ymarferwyr
Mae’r dysgwyr yn gwybod techneg gywir y sgiliau ac yn deall sut gallant eu rhoi mewn gemau, gweithgareddau a dilyniannau. Datblygu annibyniaeth a gweithio gydag eraill.Cardiau adnoddau yn rhoi cynnwys clir i athrawon / ymarferwyr a hefyd sut i haenu datblygiad dilyniannau gydag agweddau ar amrywiaeth, defnydd o gyfarpar a chwestiynu effeithiol.         
Cyfleoedd
DisgyblionAthrawon / ymarferwyr
Cyfleoedd i wneud cardiau adnoddau dysgwyr unigol i'w harddangos neu eu defnyddio. Ysgrifennu straeon Addysgu'r Corff eu hunain a chreu gweithgareddau a gemau newydd ar eu pen eu hunain, gydag eraill, gydag ymarferwyr.

Cyfleoedd lluosog i arwain a hwyluso dysgu gan ddefnyddio’r cardiau adnoddau, straeon Addysgu’r Corff, sgiliau, gweithgareddau a gemau.   

Cyfleoedd i ddefnyddio dulliau Asesu ar gyfer Dysgu. 

Dolenni at MDaPh eraill

 

Celfyddydau Mynegiannol – Gellir defnyddio cerddoriaeth i ddatblygu a pherfformio dilyniannau gymnasteg. 

Iechyd a Lles - Os yw plant yn mwynhau bod yn actif, yn hyderus yn eu gallu ac yn dysgu sgiliau symud allweddol bydd hyn yn meithrin mwynhad gydol oes o chwaraeon a gweithgarwch corfforol ac felly'n gwella iechyd a lles. Archwilio a darganfod siapiau a grwpiau sgiliau.

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu – Cynnwys cronfa o eiriau ac ymadroddion a geirfa. Straeon addysgu’r corff – dysgwyr yn cael eu hannog i ysgrifennu straeon addysgu’r corff eu hunain. Mae'r adnoddau i gyd yn ddwyieithog.

Mathemateg a rhifedd - cyfleoedd ar gyfer cyfrif, adnabod siapiau ac iaith lleoli.

Ystyriaethau ac awgrymiadau wrth symud ymlaen:

 

Mae gweithgareddau addysgu'r corff yn darparu sylfeini ar gyfer gymnasteg ond hefyd rheoli'r corff yn gyffredinol.

 

Ffocws ar y cyfraniad y gall gweithgarwch addysgu ei wneud e.e. milwyr yn cropian a chysylltiadau at gropian a thueddiadau dyslecsig.                                              

 

Defnyddio addysgeg o athrawon yn arwain ac felly datblygu eu gwybodaeth a'u hyder gyda'r adnodd a'u medrusrwydd o ran sut i'w ddefnyddio.

 

Ystol Gweithgarwch Addysgu’r Corff – ystod enghreifftiol o Weithgareddau Addysgu’r Corff ar gael i’w hymarfer yn ffurfiol ac yn anffurfiol. 

 

Ymgorffori mewn gweithgareddau / gemau eraill.

 

Ymgorffori / dolenni i SMILES a STEP o'r dechrau un. 

 

Mae CDs a CD ROM bellach yn anodd i lawer eu defnyddio felly mae angen rhannu adnoddau ar blatfform gwahanol (mae'n amlwg bod hyn yn bosibl oherwydd bod adnoddau'n cael eu rhannu'n llwyddiannus ar wefan Chwaraeon Cymru yn ystod cyfyngiadau symud COVID 19).

Mynediad am ddim i adnoddau addysg