I lawer, mae’r cyfyngiadau’n golygu nad ydym yn symud gymaint. Os nad ydych chi’n actif iawn, mae gennym ni rai ymarferion ysgafn y gallwch chi roi cynnig arnyn nhw gartref.
Mae’r rhain ar gyfer pobl sy’n newydd i ymarfer efallai, a’r rhai sydd eisiau dechrau’n araf cyn adeiladu eu ffitrwydd.
Mae neilltuo amser i weithio ar eich hyblygrwydd a’ch cryfder ac i wella eich cydbwysedd yn ffordd wych o roi patrwm i’ch diwrnod. Gall fod yn hwb eithriadol bositif hefyd. Rhowch gynnig arni!
Yma, cewch hyd I wybodaeth a sesiynau gan Chwaraeon Cymru a’n partneriaid. Byddwn yn diweddaru’r cynnwys yn ddyddiol. Rhannwch eich cynnwys â ni drwy ebostio [javascript protected email address]