Mae Gwobrau Chwaraeon Cymru yn dod â BBC Cymru Wales a Chwaraeon Cymru at ei gilydd yn flynyddol i arddangos hufen y byd chwaraeon elitaidd ac ar lawr gwlad yng Nghymru.
Mae’r Gwobrau’n cyfuno arbenigedd y ddau sefydliad i greu dathliad chwaraeon mwyaf erioed Cymru.
Yng Ngwobrau 2019, coronwyd capten rygbi’r undeb yng Nghymru, Alun Wyn Jones, yn Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru Wales 2019.
Yn ffres o ymgyrch lwyddiannus yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn Japan lle cyrhaeddodd y tîm y rownd gyn-derfynol, derbyniodd Alun Wyn y wobr ar ôl dod i’r brig ym mhleidlais y cyhoedd.
Daeth Sabrina Fortune yn ail a Jade Jones yn drydydd yn y bleidlais.
Anrhydeddodd y gwobrau arwyr chwaraeon o bob cwr o Gymru a gallwch ddarllen mwy am yr holl enillwyr yma.