Fel y rhan fwyaf o gymnastwyr, mae’r ailadrodd fel rheol yn caledu ei dwylo ac yn galluogi iddi osgoi cael swigod, ond mae’n cyfaddef: “Rydw i wedi bod allan o’r gampfa am bedwar mis ac felly mae fy nwylo i wedi mynd braidd yn feddal. 

“Maen nhw’n eithaf garw fel arfer, a gan fy mod i wedi bod yn gwneud gymnasteg am amser hir, mae fy nwylo i wedi dod i arfer â hynny. 

“Mae hyn yn swnio’n rhyfedd, ond roedd arogl y gampfa’n rhoi cymaint o gysur pan es i’n ôl i mewn. 

“Rydw i wedi arfer cymaint gydag arogl llwch sialc a chwys fel bod cerdded i mewn yno eto wedi gwneud i mi feddwl, ‘ie, fan hyn yw gartref’”.

Mae tu mewn i gampfa wedi bod yn ail gartref i Emily yn sicr yn ystod ei harddegau i gyd. Ond mae pandemig y coronafeirws wedi ei hatal rhag mynd i unrhyw gampfa yn ystod y pedwar mis diwethaf. 

Yn hytrach, mae wedi bod yn defnyddio bar tynnu i fyny a darnau eraill o offer gartref, ac mae wedi cael sesiynau Zoom gyda’r hyfforddwraig genedlaethol, Tracey Skirton.

Ond nawr mae hi’n ôl yn defnyddio’r cyfarpar i gyd yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd, y ganolfan perfformiad uchel ar gyfer y gamp sydd wedi cael ei haddasu ar gyfer y llond llaw o gymnastwyr sydd wedi cael dychwelyd o dan oruchwyliaeth fanwl. 

Emily oedd y cyntaf drwy’r drysau – ac wedyn y gymnastwyr rhythmig Gemma Frizelle a Skyla Sims. Wedyn daeth Latalia Bevan a Holly Jones, gyda dau arall i ddychwelyd ar Orffennaf 13, y gymnastwyr artistig Emil Barber a Joe Cemlyn-Jones.

Er bod y gampfa’n gyfarwydd i’r saith gymnast elitaidd o Gymru, mae’r amodau’n ddieithr iawn.            

Mae’r perfformwyr ar lefel Olympaidd a Chymanwlad yn gorfod defnyddio darnau unigol penodol o gyfarpar am gyfnodau hir – yn lle newid o un i’r llall – er mwyn lleihau’r risg o haint.         

Mae diheintyddion dwylo ac archwiliadau tymheredd yn rhan o drefn newydd reolaidd a bydd hynny’n wir am beth amser. 

“Rydw i’n gorfod gwirio fy nhymheredd bob dydd, hyd yn oed cyn cyrraedd y gampfa. A llenwi holiadur,” ychwanegodd Emily.

“Ar fy niwrnod cyntaf i’n ôl, dod i arfer â’r gofynion a’r gweithdrefnau diogelwch newydd oedd yn bwysig. 

“O ran hyfforddi, rydyn ni’n cadw pethau’n sylfaenol iawn oherwydd rydw i wedi bod i ffwrdd mor hir. Rydw i wedi bod ar y cyfarpar i gyd, ond fe fydd y cynnydd i hyfforddiant gymnasteg ar lefel uwch yn raddol iawn.”

I’r fyfyrwraig Safon Uwch sydd wedi cymryd blwyddyn fwlch cyn mynd i’r brifysgol, roedd un cysur mawr oherwydd y cyfyngiadau symud. Mae wedi cael cyfle i orffwys mwy, ac adfer yn dilyn yr anaf a gafodd i’w phen-glin fis Medi diwethaf, a daflodd gysgod ar ei pharatoadau ar gyfer y Gemau Olympaidd.            

Heb unrhyw gystadlaethau, a dim un o’i gwrthwynebwyr wedi bod mewn campfa ers mis Mawrth, mae ymyl arian i gwmwl y cyfyngiadau symud.

“Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn rhwystredig. Rydw i’n berson cymdeithasol iawn ac rydw i’n hoffi hyfforddi gyda phobl. 

“Ond mewn ffordd hunanol, mae gohirio’r Gemau Olympaidd wedi bod o help i mi. Mae’n rhoi blwyddyn ychwanegol i mi fod yn gwbl ffit eto. Hefyd mae llai i mi ddal i fyny arno oherwydd does neb arall wedi bod yn gwneud unrhyw beth chwaith. 

“Mae’r ochr gorfforol yn ymwneud â chael y corff i arfer â’r holl boenau eto, ond mae ochr feddyliol ac emosiynol i bethau hefyd. Os nad ydych chi wedi gwneud y symudiadau yma ers sbel, mae’n gallu teimlo braidd yn ofnus.”

I gyfarwyddwr perfformiad Gymnasteg Cymru, Jo Coombs, y geiriau pwysig i Emily a’r chwe arall yw amynedd a hunanfeddiant. 

Diwedd y flwyddyn yma fydd y cynharaf i gystadlaethau allu ailddechrau, gyda’r Pencampwriaethau Ewropeaidd sydd wedi’u haildrefnu – sy’n dyblu fel meini prawf dewis ar gyfer y Gemau Olympaidd – ac mae hynny’n rhoi digon o amser ar gyfer cynnydd graddol.  

“Efallai bod y gymnastwyr yn meddwl eu bod nhw’n barod, ond yn gorfforol fe fydd yn cymryd amser i’w cyrff nhw ailaddasu. Mae wedi bod yn araf a graddol,” meddai Jo.

“O ran y grymoedd sy’n mynd drwy eu cyrff nhw pan maen nhw ar y cyfarpar, mae’n anodd iawn efelychu hynny y tu allan i’r gampfa. Felly mae wir yn bwysig bod yn ofalus iawn.

“Mae hon yn broses hir ac er bod rhai cystadlaethau wedi cael eu haildrefnu, fe fyddech chi eisiau rhai cystadlaethau bach i ddechrau.”

O ran gweddill y byd gymnasteg – y clybiau sy’n cystadlu ac yn chwarae rôl gymunedol ar hyd a lled y wlad – mae’r golau gwyrdd i ddychwelyd eto i gael ei droi ymlaen. 

“Rydw i’n meddwl mai’r gobaith yw gallu gwneud i hyn weithio o sylfaen gymharol fach ac wedyn, yn fuan, efallai y bydd posib i ni agor y gamp yn llawnach. Ond does dim dyddiad ar gyfer hynny eto yn sicr,” ychwanegodd Jo.

“Dydyn ni ddim yn siŵr am yr amserlen ar gyfer ein clybiau ni a’r gymuned, ond mae pethau’n cael eu rhoi yn eu lle. 

“Mae llawer o brosesau a gweithdrefnau wedi bod i liniaru unrhyw risg sy’n bodoli efallai a hefyd i roi hyder i’r athletwyr a’r hyfforddwyr. Hefyd mae rhieni angen gwybod ein bod ni’n gwneud pethau mor ddiogel â phosib.”