Skip to main content

Cronfa argyfwng gwerth £400,000 i chwaraeon wedi’i chyhoeddi gan Lywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru.

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Cronfa argyfwng gwerth £400,000 i chwaraeon wedi’i chyhoeddi gan Lywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod am roi £200,000 i ddarparu cefnogaeth i glybiau chwaraeon nid-er-elw. Mae’r swm yn gael ei gyfateb gyda £200,000 gan Chwaraeon Cymru.

Mae’r newyddion wedi cael ei groesawu gan Chwaraeon Cymru, gyda gwaith yn cael ei roi yn ei le nawr i gael cyllid i’r clybiau sydd ei angen cyn gynted â phosib. 

Daw effaith y Coronafeirws ychydig wythnosau yn unig ar ôl i lawer o glybiau yng Nghymru gael eu difrodi’n ddifrifol gan lifogydd a achoswyd gan Stormydd Dennis a Ciara.

 

“Mae wir yn amser digynsail i bawb ac rydyn ni’n eithriadol ymwybodol o’r heriau i seilwaith chwaraeon Cymru,” meddai Prif Weithredwr Dros Dro Chwaraeon Cymru, Brian Davies.

“Rydyn ni’n eithriadol ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am y cyllid ychwanegol yma – bydd wir yn gymorth enfawr i glybiau cymunedol. 

“Mae ein staff yn gweithio’n galed i sefydlu proses ymgeisio ar gyfer y Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng i alluogi i ni ddarparu cyllid cyn gynted â phosib i’r rhai sydd ei angen fwyaf.   

O ystyried pa mor enfawr yw’r argyfwng presennol, rydym yn rhagweld y byddwn yn derbyn nifer sylweddol o geisiadau a bydd rhaid i ni gyfeirio’r cyllid i ble mae ei angen fwyaf.”

Mae Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru wedi cydweithio i ddatgan cronfa gychwynnol o hyd at £8.1 miliwn yn ychwanegol at y Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng. Bydd yn cael ei defnyddio i gefnogi clybiau chwaraeon a’n rhwydweithiau partner sydd wedi’u sefydlu sydd mor hanfodol i sicrhau bod y genedl yn gallu parhau i fod yn actif a mwynhau manteision iechyd a lles chwaraeon. Bydd Chwaraeon Cymru yn parhau i ofyn am farn y sector wrth lunio gofynion yn y dyfodol ac i sicrhau bod y gronfa hon yn ategu’r rhaglenni cefnogi eraill sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru. 

Ychwanegodd Davies: “Rydyn ni hefyd yn gweithio drwy ffynonellau eraill o gyllid a chefnogaeth er mwyn sicrhau ein bod yn gallu rhoi’r help gorau posib. Mae’r sefyllfa’n newid yn gyflym iawn ac rydyn ni’n cyfathrebu gyda’n partneriaid a chlybiau gymaint â phosib. Rydyn ni eisoes wedi datgan cronfa gychwynnol gwerth hyd at £8.1 miliwn a fydd yn galluogi i ni barhau i gefnogi ein partneriaid y tu hwnt i’r Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng. Byddwn yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid yn ystod yr wythnosau sydd i ddod i benderfynu gyda’n gilydd sut orau i ddefnyddio’r gronfa i gefnogi chwaraeon yng Nghymru.”

Mwy o wybodaeth 

  • Dogfen Cwestiynau ac Atebion am y Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng. Bydd yn cael ei diweddaru pan fydd mwy o wybodaeth ar gael.
  • Cyfeiriad e-bost penodol ar gyfer cwestiynau am gyllid argyfwng i glybiau emergencyrelief@sport.wales
  • Gwybodaeth am grantiau eraill sydd ar gael gan Chwaraeon Cymru.
  • Ein hadnodd Atebion Clwb penodol i gefnogi clybiau a gwirfoddolwyr.

Grantiau Datblygu - Diweddariad Pwysig: Ddim Ar Gael Dros Dro

O 21/04/2020 ymlaen, dim ond ceisiadau am grantiau o’r Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng fyddwn ni’n eu prosesu.…

Darllen Mwy

Y Gist Gymunedol - Diweddariad Pwysig: Ddim Ar Gael Dros Dro

O 21/04/2020 ymlaen, dim ond ceisiadau am grantiau o’r Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng fyddwn ni’n eu prosesu..

Darllen Mwy

Cefnogaeth i Glybiau

Yma fe welwch chi fag cit Chwaraeon Cymru o gyfarwyddyd ar gyfer clybiau a sefydliadau chwaraeon.

Darllen Mwy