Mae miloedd o bobl yng Nghymru wedi gwneud defnydd o adnoddau Chwaraeon Cymru ar gyfer cael pobl ifanc i fod yn actif yn ystod y cyfyngiadau symud.
Yn rhan allweddol o ddarpariaeth ysgolion eisoes, mae llyfrau gweithgarwch a chardiau Chwarae i Ddysgu ac Aml-Sgiliau’r Ddraig yn profi yr un mor boblogaidd gartref.
Nawr mae cyfle i bobl ifanc Cymru liwio cymeriadau Megan, Babi Draig a’r criw, gyda chyfle i ennill gwobr chwaraeon hefyd.
Bydd pob ymgais yn cael ei chynnwys mewn raffl i ennill offer chwaraeon gwerth £100 ar gyfer y cartref.