Skip to main content

Dathlu’r 30,000fed prosiect i dderbyn cyllid y Loteri Genedlaethol gan Chwaraeon Cymru

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Dathlu’r 30,000fed prosiect i dderbyn cyllid y Loteri Genedlaethol gan Chwaraeon Cymru

Mae clwb rygbi cadair olwyn yng Nghanolbarth Cymru wedi dod y 30,000fed prosiect i dderbyn cyllid y Loteri Genedlaethol gan Chwaraeon Cymru.

Ers 1994, mae miliynau o bunnoedd wedi cael eu rhoi i glybiau chwaraeon, grwpiau cymunedol a sefydliadau ledled Cymru. Ac yn briodol, wrth i’r Loteri Genedlaethol ddathlu ei phen-blwydd yn 30 oed, mae Chwaraeon Cymru newydd ddyfarnu’r 30,000fed grant i Glwb Rygbi Cadair Olwyn y Scarlets ac Aberystwyth.

Derbyniodd Clwb Rygbi Cadair Olwyn y Scarlets ac Aberystwyth £37,589 i ateb y galw am fwy o gyfleoedd a mynediad i chwaraeon anabledd yng Nghanolbarth Cymru wledig.

Dywedodd Mark Baines, Swyddog Datblygu Cymru gyda Rygbi Cadair Olwyn Prydain Fawr a sylfaenydd y clwb newydd:

"Mae'n anoddach i bobl yng nghefn gwlad Cymru gael mynediad i chwaraeon. Rydyn ni eisiau darparu'r un cyfleoedd i'r bobl hynny.

“Rydyn ni’n hynod ddiolchgar am y cyllid yma gan Chwaraeon Cymru gan ei fod wedi ein galluogi ni i brynu 10 cadair olwyn sy’n addas ar gyfer rygbi cadair olwyn yn ogystal ag offer hanfodol arall.

“Diolch o galon a phen-blwydd hapus i’r Loteri Genedlaethol – mae’n anrhydedd cael bod y 30,000fed prosiect i dderbyn cyllid y loteri drwy Chwaraeon Cymru.”

Aelodau o Glwb Rygbi Cadair Olwyn y Scarlets ac Aberystwyth yn creu'r rhif 30,000. Mae aelodau'r clwb yn ffurfio rhif tri thra bod olwynion cadeiriau olwyn yn gwneud y sero.
Clwb Rygbi Cadair Olwyn y Scarlets ac Aberystwyth yn dathlu bod y 30,000fed clwb i dderbyn cyllid Loteri

Ar gyfer beth y dyfarnodd Cyllid y Loteri Genedlaethol arian? 

Dyfarnwyd cyllid i Rygbi Cadair Olwyn y Scarlets ac Aberystwyth gan Chwaraeon Cymru oherwydd eu gwaith yn creu amgylchedd cynhwysol ac yn dileu rhwystrau i blant ac oedolion ag anableddau gymryd rhan mewn chwaraeon a bod yn actif.

Derbyniodd y clwb gyllid y Loteri Genedlaethol ar gyfer y canlynol:

  • Cadeiriau Olwyn Rygbi – Gall mynediad i gadeiriau olwyn rygbi fod yn rhwystr i gymryd rhan. Derbyniodd y clwb gyllid i brynu 10 ‘cadair clwb’ i oresgyn y rhwystrau hyn ac i annog mwy o gyfranogiad heb y pryder bod rhaid i’r cyfranogwyr brynu eu cadeiriau eu hunain.
  • Offer arall - Mae offer ychwanegol fel menig, peli, conau a bibiau wedi cael eu cyllido i sicrhau bod digon o offer ar gael ar gyfer y rhai sy'n cymryd rhan yn y clwb ar hyn o bryd, a thwf y clwb yn y dyfodol.
  • Datblygu hyfforddwyr – Bydd gwirfoddolwyr yn y clwb yn dilyn cymwysterau hyfforddi Lefel 2 er mwyn gallu cyflwyno sesiynau a chynnal y clwb newydd.
  • Llogi lleoliad – Derbyniodd y clwb newydd gyllid ar gyfer sesiynau hyfforddi wythnosol 2 awr i'w helpu i gychwyn. Mae’r cyllid yma’n cael ei ddarparu ar gyfer clybiau newydd yn unig.

Sut mae Clwb Rygbi Cadair Olwyn y Scarlets ac Aberystwyth yn gwneud gwahaniaeth yn y gymuned? 

Gyda chlwb llwyddiannus eisoes wedi ei sefydlu yn Wrecsam, roedd Sefydliad Cymunedol y Scarlets eisiau lledaenu eu heffaith ymhellach. Nawr, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae cyfleoedd i bobl anabl mewn rhannau eraill o ranbarth y Scarlets fwynhau rygbi cadair olwyn gan y bydd y clwb newydd yn cynnig sesiynau ym Mhrifysgol Aberystwyth a Chanolfan Hamdden Bro Ddyfi ym Machynlleth.

Ychwanegodd Mark Baines, Swyddog Datblygu Cymru gyda Rygbi Cadair Olwyn Prydain Fawr:

"Rydyn ni eisiau darparu amgylchedd diogel a phleserus i bobl gymryd rhan yn y gamp a bod yn actif, a dyna beth sydd bwysicaf. Rhaid i bawb fwynhau chwaraeon i gael y gorau ohono, dim ots beth yw'r lefel."

Aelodau o Glwb Rygbi Cadair Olwyn y Scarlets ac Aberystwyth yn chwerthin a gwenu.

Cysylltiadau a Chefnogaeth Gymunedol

Mae cysylltiadau cymunedol a chefnogaeth gan sefydliadau lleol wedi rhoi help llaw hefyd wrth sefydlu'r clwb newydd. Er mwyn hwyluso'r sesiynau yng Nghanolfan Hamdden Bro Ddyfi, mae Freedom Leisure wedi rhoi arian cyfatebol ar gyfer 10 sesiwn hyfforddi dwy awr gan y Loteri Genedlaethol.

Fe fu Sefydliad Cymunedol Rygbi'r Scarlets ar daith hefyd i gyflwyno pobl newydd i'r gamp. O sesiynau blasu i sesiynau ysgol ar draws y rhanbarth, eu nod yw annog mwy o bobl i chwarae rygbi cadair olwyn yn rheolaidd.

Beth Nesaf? 

Dydi cynlluniau’r clwb ddim yn dod i ben yma! Eu nodau nesaf yw hyfforddi hyfforddwyr a gwirfoddolwyr a ffurfio pwyllgor. Mae galluogi’r clwb i fod yn gynaliadwy yn hollbwysig.

Fodd bynnag, y nod yn y pen draw yw sefydlu mwy o glybiau mewn ardaloedd o Gymru lle mae’n anoddach cael mynediad at chwaraeon. Mae pawb sy'n ymwneud â Chlwb Rygbi Cadair Olwyn y Scarlets ac Aberystwyth yn frwd dros ddatblygu’r gamp yn yr ardal a chael mwy o bobl i fwynhau ei manteision.

Yn ystod y 30 mlynedd diwethaf, mae 30,000 o brosiectau chwaraeon wedi bod yn cael mwy o bobl i fod yn actif yng Nghymru, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. A nawr, mae Chwaraeon Cymru yn edrych ymlaen at y 30 mlynedd nesaf pan fydd miloedd yn rhagor o glybiau a sefydliadau, fel Clwb Cadair Olwyn y Scarlets ac Aberystwyth, yn gallu parhau i ddefnyddio cyllid y Loteri Genedlaethol i ddarparu mwy o gyfleoedd chwaraeon ledled y wlad.

Newyddion Diweddaraf

Rhowch gynnig ar nofio dŵr oer mewn digwyddiad nofio Nadoligaidd yng Nghymru

Ydych chi’n meddwl rhoi cynnig ar nofio dŵr oer mewn sesiwn nofio Nadoligaidd yng Nghymru?

Darllen Mwy

Pethau am ddim i’w gwneud yng Nghymru i gadw’n actif dros yr ŵyl

Dyma rai gweithgareddau i gael eich corff i symud a rhoi hwb i’ch lles dros y Nadolig.

Darllen Mwy

Grantiau ar gyfer clybiau chwaraeon sydd wedi cael eu heffeithio gan ddifrod storm

Mae Chwaraeon Cymru wedi lansio Cronfa Difrod Storm ar ôl i nifer o gyfleusterau chwaraeon ddioddef…

Darllen Mwy