Canllawiau o hanner nos ymlaen ar 19eg Rhagfyr
Bydd Cymru’n cael ei rhoi yn Lefel Rhybudd 4am hanner nos, nos Sadwrn 19eg Rhagfyr. Mae’r cyfyngiadau ar y lefel hon yn cyfateb i'r rheoliadau yn ystod y cyfnod atal byr neu'r cyfyngiadau symud, sy'n golygu newidiadau sylweddol ar gyfer chwaraeon a hamdden.
NI CHANIATEIR gweithgareddau chwaraeon awyr agored a dan do wedi'u trefnu.
Fodd bynnag, caniateir gweithgarwch Unigol yn yr awyr agored - gan gynnwys gyda'ch aelwyd eich hun. Nid oes cyfyngiad ar faint o ymarfer corff yn yr awyr agored y gall unigolyn ymgymryd ag ef. Rhaid i'r holl weithgarwch ddigwydd yn lleol. Rhaid dilyn cyfyngiadau Lefel Rhybudd 4 bob amser
Cyfleusterau
NI CHANIATEIR i gyfleusterau hamdden a ffitrwydd, gan gynnwys pyllau nofio, agor i’r cyhoedd o dan Lefel Rhybudd 4.
Chwaraeon Elitaidd
Bydd mwy o wybodaeth am weithgareddau chwaraeon elitaidd yn cael eu darparu’n fuan.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am Lefelau Rhybudd Llywodraeth Cymru.
Edrychwch ar dudalennau Chwaraeon Cymru am ymarferion a gweithgareddau y gallwch eu gwneud gartref.