3. Nid dim ond yn yr haf mae beicio’n bleser
Lapiwch yn gynnes a mwynhau siwrnai gyffrous i gael y gwaed i bwmpio. Os nad ydych chi’n feiciwr hyderus, cadwch at lwybrau beicio hawdd. Edrychwch ar wefan Croeso Cymru i ddod o hyd i'ch llwybr beicio agosaf heb lawer o draffig sy'n addas i deuluoedd. Os ydych chi'n hoffi mynd â'ch beic oddi ar y ffordd, ewch i'ch llwybr MTB am ddim agosaf neu drac pwmpio BMX.
Dim beic? Mae rhai cynlluniau ailgylchu beiciau am ddim ar gael yng Nghymru fel Free Bikes 4 Kids yng Nghasnewydd a Chynllun Beic Am Ddim Grŵp Ynni Trefaldwyn ger y Trallwng, sy’n atal beiciau rhag mynd i safleoedd tirlenwi ac i gartref da yn lle hynny. Gallwch hefyd ddod o hyd i feiciau am ddim ar Facebook Marketplace a Gumtree – cofiwch wneud yn siŵr ei fod yn gweithio’n iawn neu ewch i’ch caffi atgyweirio agosaf os oes arnoch chi angen rhywfaint o gyngor.
Mae Sustrans hefyd yn treialu cynllun lle gall pobl fenthyca beic trydan am ddim. Mae ar waith yn Aberystwyth, y Rhyl, y Barri, Abertawe, y Drenewydd a’r ardaloedd cyfagos.
Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dilyn yr awgrymiadau hanfodol yma ar gyfer beicio dros y gaeaf.