Skip to main content

Tanni yn canmol effaith y Loteri Genedlaethol sy’n ‘newid y gêm’

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Tanni yn canmol effaith y Loteri Genedlaethol sy’n ‘newid y gêm’

Wrth i’r Loteri Genedlaethol nesáu at ei phen-blwydd yn 30 oed, mae’r Farwnes Tanni Grey-Thompson wedi talu teyrnged i’r effaith mae wedi’i chael ar chwaraeon yng Nghymru ar bob lefel, gan ‘newid y gêm’.

Roedd Tanni, un o athletwyr Paralympaidd gorau Prydain, eisoes yn enw cyfarwydd ac yn anterth ei gyrfa pan gyflwynwyd arian y loteri yn rhan o chwaraeon elitaidd yn 1997.

Erbyn hynny, roedd hi wedi cystadlu yn y Gemau Paralympaidd deirgwaith, gan ennill 10 medal – pump ohonynt yn Aur.

Ond fe welodd hi â'i llygaid ei hun sut bu i'r llif sydyn o arian y loteri helpu i fynd â pherfformiadau Prydeinig i uchelfannau newydd. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, roedd athletwyr ledled y wlad yn elwa o hyfforddiant o'r radd flaenaf, cefnogaeth feddygol gynhwysfawr a chyfleusterau cwbl fodern. Roedd y dyddiau o hyfforddi mewn maes parcio ym Mhen-y-bont ar Ogwr drosodd!!

Dywedodd Tanni, sy’n Gadeirydd Chwaraeon Cymru: “Yn gynharach yn fy ngyrfa i, roeddech chi’n gyfyngedig o ran lle gallech chi hyfforddi, felly yn y gaeaf fe fydden ni’n defnyddio maes parcio aml-lawr yn aml, gan fynd i fyny ac i lawr y rampiau!

“Ond diolch i’r Loteri Genedlaethol, yn sydyn roedd gennym ni gyfleusterau gwych yn cael eu hadeiladu yng Nghymru, fel y Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol yng Nghaerdydd a Phwll Cenedlaethol Cymru yn Abertawe.

“Roedd hefyd yn amlwg sut roedd y cyfleusterau oedd yn cael eu cyllido gan y loteri yn helpu i godi’r safonau mewn llefydd eraill. Er enghraifft, roeddwn i’n arfer hyfforddi llawer yn Loughborough, oedd â chyfleusterau rhagorol eisoes, ond fe wnaethon nhw sawl gwelliant pellach er mwyn cadw i fyny.”

Meddai Tanni wedyn: “Roedd effaith ariannol arian y loteri yn enfawr i athletwyr ar ddiwedd y 90au. Roedd gan y mwyafrif helaeth ohonom ni swyddi. I mi yn bersonol, roedd yn golygu fy mod i’n gallu symud i swydd ran amser.

“Fe wnaeth arian y loteri roi mwy o amser i mi wneud yr hyn roedd angen i mi ei wneud bob dydd. Yn hollbwysig, fe roddodd le yn fy mhen i mi, oedd yn bwysig iawn i mi. Roedd jyglo swydd amser llawn gyda gofynion hyfforddi wedi bod yn flinedig iawn – o’r diwedd roeddwn i’n gallu gorffwys, paratoi prydau bwyd ac adfer yn iawn.

“Mewn chwaraeon nawr, rydyn ni’n canolbwyntio llawer ar greu’r amgylcheddau gorau posibl ar gyfer ein hathletwyr ni fel eu bod nhw’n gallu datblygu nid yn unig fel perfformwyr ond fel pobl gyflawn. Rydyn ni wedi dysgu llawer o gyfnodau blaenorol, a ’fydden ni ddim lle rydyn ni nawr heb arian y Loteri Genedlaethol yn gwneud hynny’n bosibl.

“I’r athletwyr iau oedd newydd ddechrau eu gyrfaoedd ar ddiwedd y 90au, roeddech chi’n gallu gweld yn glir y gwahaniaeth roedd yn ei wneud iddyn nhw o ran nifer y cystadlaethau y gallen nhw a’u hyfforddwyr eu mynychu nawr. Oherwydd hyn, roedd athletwyr yn gallu gwneud cynnydd a gwella’n llawer cyflymach nag y bydden nhw wedi’i wneud heb arian y loteri.”

Tanni Grey-Thompson ac athletwyr Paris 2024 yn y Senedd
Tanni Grey-Thompson ac athletwyr a ariennir gan y Loteri o Baris 2024.
Fydden ni ddim lle rydyn ni nawr heb arian y Loteri Genedlaethol yn gwneud hynny’n bosibl.
Tanni Grey-Thompson

Erbyn i Tanni ymddeol o gystadlu yn 2007, roedd hi wedi ennill chwe Medal Aur Paralympaidd arall. Hefyd roedd hi wedi dal mwy na 30 o recordiau byd ac fe enillodd Farathon Llundain chwe gwaith.

Mae gyrfa Tanni ar ôl gorffen cystadlu yn y byd athletau wedi bod yr un mor nodedig. Wedi’i dyrchafu i Dŷ’r Arglwyddi yn 2010, mae’r Farwnes Grey-Thompson wedi hyrwyddo hawliau anabledd ac wedi gwasanaethu ar amrywiol bwyllgorau a byrddau.

Yn y 2000au, roedd yn aelod o Banel Dyfarnu’r Loteri yn Lloegr, gan ddyfarnu gwerth miliynau o bunnoedd o arian i brosiectau chwaraeon ledled y wlad, o gynlluniau mawr fel adnewyddu Stadiwm Wembley i fentrau cymunedol.

Dywedodd Tanni: “Yn amlwg, roedd yn gyffrous bod prosiectau mawr yn bosibl oherwydd arian y loteri, ond roedd wir yn eich cyffwrdd chi ar lefel bersonol wrth weld yr effaith anhygoel y gallai dyfarniad cyllid llai ei chael – cwrdd ag aelodau hŷn o’r gymuned oedd wedi cael cyfle i ddal ati i fod yn actif a chymdeithasu, neu weld y mwynhad roedd pobl ifanc yn ei deimlo o fod yn rhan o rywbeth.

Mae enghreifftiau di-ri o arian y loteri yn gwneud pethau anhygoel i gymunedau dros dri degawd. Bob blwyddyn, mae Chwaraeon Cymru yn dyfarnu gwerth miliynau o bunnoedd o arian y Loteri Genedlaethol i glybiau ar lawr gwlad yng Nghymru, ac rydyn ni’n buddsoddi miliynau yn rhagor yn ein partneriaid gwych ni sy’n gweithio bob un dydd i wella bywydau pobl drwy chwaraeon.

“Sgìl effaith arall, un sy’n llai cyfarwydd i arian y loteri, yw ei fod wedi newid y rheolau i wneud chwaraeon yn fwy hygyrch i bawb. Mae'n swnio fel yr oesoedd tywyll nawr, ond roedd yna lawer o glybiau golff tua 25 mlynedd yn ôl lle'r oedd yn rhaid i ferched ddefnyddio mynedfa ochr a dim ond ar amser penodol oedden nhw’n cael chwarae yno.

“Wel, fe gafodd y clybiau hynny ddeall yn gwbl glir na fydden nhw’n derbyn unrhyw arian y Loteri Genedlaethol oni bai eu bod yn newid eu rheolau. O symud ymlaen at heddiw ac edrych ar y sefyllfa, mae gennych chi glybiau golff ar hyd a lled y wlad gydag adrannau merched ffyniannus a mentrau gwych i gael mwy o blant a theuluoedd i chwarae gyda’i gilydd.”

I gloi, dywedodd Tanni: “Mae’r Loteri Genedlaethol wedi newid y gêm i chwaraeon yng Nghymru dros y 30 mlynedd diwethaf. Mae effaith y loteri wedi cael ei theimlo ar bob lefel mewn chwaraeon yng Nghymru ac ym mhob cymuned. Mae ein dyled ni’n enfawr i bawb sydd wedi chwarae’r Loteri Genedlaethol erioed – diolch!”

Newyddion Diweddaraf

Rhowch gynnig ar nofio dŵr oer mewn digwyddiad nofio Nadoligaidd yng Nghymru

Ydych chi’n meddwl rhoi cynnig ar nofio dŵr oer mewn sesiwn nofio Nadoligaidd yng Nghymru?

Darllen Mwy

Pethau am ddim i’w gwneud yng Nghymru i gadw’n actif dros yr ŵyl

Dyma rai gweithgareddau i gael eich corff i symud a rhoi hwb i’ch lles dros y Nadolig.

Darllen Mwy

Grantiau ar gyfer clybiau chwaraeon sydd wedi cael eu heffeithio gan ddifrod storm

Mae Chwaraeon Cymru wedi lansio Cronfa Difrod Storm ar ôl i nifer o gyfleusterau chwaraeon ddioddef…

Darllen Mwy