Skip to main content

Ethan Vernon - Beicio

Beicio

Enw: Ethan Vernon
Ganwyd yn: Bedford, Lloegr
Ysgol(ion): Ysgol Bedford 
Clwb (Clybiau): Clwb Beicio Corley Cycles, Ribble Cycling,Team Inspired
Cystadleuaeth: Gweithgaredd Tîm
Chwaraeon Eraill: BMX
Profiad Olympaidd: Cystadlu am y tro cyntaf
Medalau: Pencampwriaethau Trac Ewrop (Arian 2020)
Anrhydeddau Eraill: Record Byd Iau Gweithgaredd Unigol 3km 

Mae gohirio am flwyddyn yn golygu y bydd Ethan yn gallu cystadlu am y tro cyntaf yn y Gemau Olympaidd yn gynharach na’r disgwyl. Ar ôl cipio amseroedd Record y Byd iau yn y gweithgaredd unigol 3km a chynrychioli Cymru yng Nghemau’r Gymanwlad yn 17 oed, mae gan Ethan ddyfodol disglair o'i flaen - gan ddechrau'r haf yma yn Tokyo 2020.

Wrth feicio yn nhîm Gweithgaredd Tîm y Dynion, bydd pwysau ar ei ysgwyddau ifanc gan fod Team GB wedi ennill medal Aur yn y Gemau diwethaf deirgwaith yn olynol. Bydd Ethan yn dilyn yn ôl troed ei gyd-Gymry. Roedd Geraint Thomas yn rhan o'r timau a enillodd yn Beijing 2008 a Llundain 2012 a daeth Owain Doull yn bencampwr Olympaidd gyda'r pedwarawd yn Rio 2016.

Ym mha glwb wnaeth Ethan ddechrau beicio?

Pan ddechreuodd Ethan feicio ar y ffordd am y tro cyntaf yn 14 oed, gwnaeth hynny gyda Corley Cycles – siop feicio leol a oedd wedi dyblu fel clwb.         

Un peth doeddech chi ddim yn ei wybod am Ethan Vernon

Roedd Ethan yn pedlo yn ddim ond 4 oed. Ond nid ar gefn beic ffordd na thrac, ond BMX. Daeth yn Bencampwr Cenedlaethol a Rhif 2 Ewrop cyn newid i ffordd a thrac.  

Ar ba ddyddiadau fydd Ethan yn cystadlu yn Tokyo 2020?

Dydd Llun, Awst 2 - Cymhwyso (09:02 BST)

Dydd Mawrth, Awst 3 - Rhagbrofion (08:22)

Dydd Mercher, Awst 4 - Rowndiau Terfynol 5-8 (09: 45/09: 52) Ras y Fedal Efydd (09:59) Ras y Fedal Aur (10:06)