Geraint Thomas - Beicio

Enw: Geraint Thomas
Ganwyd yn: Caerdydd, Cymru
Ysgol(ion): Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd
Clwb (Clybiau): Clwb Beicio Flyers Maendy, Caerdydd, JIF Caerdydd
Cystadleuaeth: Treial Amser a Ras Ffordd y Dynion
Chwaraeon Eraill:
Profiad Olympaidd: Beijing 2008 (Aur) Llundain 2012 (Aur) Rio 2016 (9fed ac 11eg)
Medalau: Gemau Olympaidd (Aur 2008 a 2012), Gemau’r Gymanwlad (Aur 2014, Efydd 2006 a 2014), Pencampwriaethau Trac y Byd (Aur x 3 ac Arian x 2), Pencampwriaethau Ffordd y Byd (Efydd 2013)
Anrhydeddau Eraill: Enillydd y Tour de France 2018, OBE, Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC
Mae Geraint wedi dod yn enw cyfarwydd nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU. Roedd eisoes wedi ennill dwy fedal aur Olympaidd cyn cipio’r Siwmper Felen nodedig yn y Tour de France yn 2018. Nid chafodd G yr un llwyddiant yn Rio 2016 felly bydd yn gobeithio am fuddugoliaeth unwaith eto yn Tokyo 2020.
Yn yr un flwyddyn, cafodd ei ymdrechion anhygoel ym mynyddoedd Ffrainc gydnabyddiaeth iddo ledled y DU pan gafodd ei ddewis yn Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC, gan ymuno â’i gyd-Gymry Ryan Giggs, Joe Calzaghe, David Broome a Dai Rees fel enillwyr y wobr.
Ym mha glwb wnaeth Geraint ddechrau beicio?
Yn union fel aelod arall o Team GB, Elinor Barker, dechreuodd Geraint feicio gyda Flyers Maendy. Yn 9 oed, byddai G yn gwylio’r beicwyr dros y ffens.
Un peth doeddech chi ddim yn ei wybod am Geraint Thomas
Efallai nad yw hwn yn un peth nad oeddech chi'n ei wybod gan fod llawer o sôn wedi bod amdano. Ond roedd Geraint Thomas yn yr un ysgol â chapten Pêl Droed Cymru, Gareth Bale, a chyn gapten Rygbi Cymru a’r Llewod, Sam Warburton.
Ar ba ddyddiadau fydd Geraint yn cystadlu yn Tokyo 2020?
Dydd Sadwrn, Gorffennaf 24 - Ras Ffordd (03:00 BST) Treial Amser (06:00)