Skip to main content

Harriet Jones - Nofio

Enw: Harriet Jones
Ganwyd yn: Caerdydd, Cymru
Ysgol: 
Clwb (Clybiau): Clwb Nofio Dinas Caerdydd
Dull: Pili Pala
Chwaraeon Eraill: 
Profiad Olympaidd: Cystadlu am y tro cyntaf
Medalau: Pencampwriaethau Ewropeaidd (2 x Aur 2020)
Anrhydeddau Eraill: Pili Pala 50m – Record Cymru

Ar ôl gosod record Cymru yn y pili pala 50m ar y cefn ym mis Chwefror, sicrhaodd Harriet ei lle yn Tokyo 2020 pan enillodd y pili pala 100m yn y treialon Olympaidd ym mis Ebrill. Gan ennill y ras mewn amser o 57.79 cymhwysodd yn unol â’r safon a threchu cystadleuydd arall o Gymru, Alys Thomas, o lai nag eiliad.       

Ym mha glwb wnaeth Harriet ddechrau nofio?

Dechreuodd Harriet Jones nofio yng Nghlwb Nofio Dinas Caerdydd. Hi fydd yr Olympiad diweddaraf o glwb y Brifddinas, gan ddilyn yn ôl troed wyth o nofwyr o Gaerdydd a gystadlodd dros Brydain Fawr ym Montreal yn 1976 yn ogystal ag enillydd dwy fedal Arian, David Davies, ac yn fwy diweddar, Ieuan Lloyd a Chloe Tutton.

Ar ba ddyddiadau fydd Harriet yn cystadlu yn Tokyo 2020?

100m Butterfly

Saturday, July 24 - 11.28 (BST) -  Preliminaries 
Sunday, July 25 - 02:40 - Semi-Final 
Monday, July 26 - 02:30 - Final

4x100m mixed medley relay

Thursday, July 29 - 12.28 - Preliminaries 
Saturday, July 31 - 03.43 - Final