Skip to main content

Jake Heyward - Athletau

Enw: Jake Heyward
Ganwyd yn: Caerdydd, Cymru
Ysgol(ion): Ysgol Fach Llanisien, Ysgol Uwchradd Llanisien
Clwb (Clybiau): Athletau CaerdyddClwb Trac Oregon
Cystadleuaeth: 1500m
Chwaraeon Eraill: 
Profiad Olympaidd: Cystadlu am y tro cyntaf
Medalau: 
Anrhydeddau Eraill: Deiliad Record 1500m Cymru 

Bydd Jake yn cael ei flas cyntaf ar y Gemau Olympaidd wrth iddo gystadlu am y tro cyntaf fel yr unig gynrychiolydd o Gymru yn nhîm athletau Team GB. Y llanc 22 oed fydd y Cymro cyntaf i redeg y 1500m ers Reg Thomas yn ôl yn LA yn 1932.

Mae anaf parhaus i’w Achilles wedi atal ei gynnydd cyn i symud i'r UDA ddod ag ef yn ôl i ffitrwydd ac yn rhedeg yn dda. Fe wnaeth hyn ei helpu i dorri record 31 oed Cymru yn y 1500m ym mis Mai a sicrhaodd ei le yn Tokyo 2020.

Ym mha glwb wnaeth Jake ddechrau cymryd rhan mewn athletau?

Dechreuodd Jake gymryd rhan mewn athletau ar ôl cael ei gyflwyno iddo drwy sesiynau’r Urdd yn yr ysgol. Wedyn, ymunodd ag adran Track Rats Clwb Athletau Caerdydd lle bu’n rhoi cynnig ar bob camp athletaidd cyn troi ei sylw at redeg pellter canol wrth iddo fynd yn hŷn.

Un peth doeddech chi ddim yn ei wybod am Jake Heyward

Ar lefel dan 20, clociodd Jake amseroedd gwell na Steve Ovett, Steve Cram a Seb Coe. 

Ar ba ddyddiadau fydd Jake yn cystadlu yn Tokyo 2020?

Dydd Mawrth, Awst 3 - Rhagbrofion (01:05 BST) 
Dydd Iau, Awst 5 - Rownd Gynderfynol (12:00) 
Dydd Sadwrn, Awst 7 - Rownd Derfynol (12:40)