Skip to main content

Jasmine Joyce - Rygbi 7

Jasmine Joyce mewn cit Tim Prydain Fawr

Enw: Jasmine Joyce
Ganwyd yn: Tyddewi, Cymru   
Ysgol(ion): Ysgol Dewi Sant, Prifysgol Metropolitan Caerdydd 
Clwb (Clybiau): Clwb Rygbi Tyddewi, Clwb Rygbi Hwlffordd, Falcons Pontyclun, Sgarlets, Bristol Bears
Safle: Asgell 
Chwaraeon Eraill: Pêl Rwyd, Hoci, Athletau
Profiad Olympaidd: Rio 2016 (Efydd)
Medalau: 
Anrhydeddau Eraill: Cymru (19 o gapiau), Barbariaid

Unig gynrychiolydd Cymru yn nhîm rygbi saith Team GB – mae Jasmine yn cael ail gyfle i flasu buddugoliaeth yn y Gemau Olympaidd. Ar ôl gorffen yn 4ydd yn Rio 2016 yn 20 oed, mae Jasmine a’i thîm yn dyheu am adael gyda medalau am eu gyddfau yn Tokyo 2020.

Bydd cyflymder eithafol a gallu anhygoel Jasmine i sgorio ceisiau’n greiddiol i siawns ei thîm o lwyddo yn y Gemau. Clociodd bron i 17mya yn sgorio’r cais hardd yma dros Gymru

Ym mha glwb wnaeth Jasmine ddechrau chwarae rygbi?

Dechreuodd Jasmine chwarae rygbi yn yr adran i blant yng Nghlwb Rygbi Tyddewi cyn symud i Glwb Rygbi Hwlffordd yn 12 oed i chwarae i dîm menywod.

Un peth doeddech chi ddim yn ei wybod am Jasmine Joyce

Oherwydd ei chyflymder anhygoel, mae Jasmine wedi cael y llysenw ‘Randall.’ Er ei bod yn ffafrio ‘Jaz’, mae ei chyd-chwaraewyr yn Team GB wedi ei chymharu â’r cameleon cyflym a deheuig yn Monsters Inc. o’r un enw.

Ar ba ddyddiadau fydd Jasmine yn cystadlu yn Tokyo 2020?

Dydd Iau, Gorffennaf 29 - Cydweddiadau Grŵp (03:00, 10:30)

Dydd Gwener, Gorffennaf 30 - Gêm Grŵp (03:00) Gemau Safle 9-12 (08:00) a Rowndiau Terfynol (09:30 - 11:00)

Dydd Sadwrn, Gorffennaf 31 - Gemau Safle 5-12 (01:00 - 02:30), Rowndiau Terfynol (03:00 - 03:30), Gêm y Fedal Efydd (09:30), Gêm y Fedal Aur (10:00)