Joe Brier - Athletau

Joe Brier
O: Castell-nedd
Clwb Cyntaf: Harriers Abertawe
Cystadleuaeth: Ras gyfnewid 4x400m Athletau
Profiad Olympaidd: Cystadlu am y tro cyntaf
Anrhydeddau Mawr:
• 2019 - Pencampwriaethau dan 23 Ewrop - ARIAN 4x400m. Pencampwriaethau Dan Do Ewrop - 5ed 4x400m.
• 2018 - Pencampwriaethau dan 20 y Byd - EFYDD 4x400.
Yn aelod wrth gefn i ddechrau, bydd Joe yn cystadlu am y tro cyntaf yn y Gemau Olympaidd gan gystadlu yn y ras gyfnewid 4x400m dros Team GB.
UN PETH DOEDDECH CHI DDIM YN EI WYBOD AM JOE BRIER
Mae chwaer Joe, Hannah, yn athletwraig o’r safon uchaf ac wedi cystadlu dros Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn ddim ond 16 oed.
PA DDYDDIADAU FYDD JOE YN CYSTADLU YN TOKYO 2020?
Dydd Gwener, Awst 6 - Rhagras ras gyfnewid 4x400m y dynion
Dydd Sadwrn, Awst 7 - Rownd derfynol ras gyfnewid 4x400m y dynion