Skip to main content

Lauren Williams - Taekwondo

Enw: Lauren Williams    
Ganwyd yn: Coed Duon, Cymru
Ysgol(ion): 
Clwb (Clybiau): Crefftau YmladdDevil 
Cystadleuaeth: -67kg
Chwaraeon Eraill: Cicfocsio, pêl droed, pêl rwyd, rygbi, hoci, pêl fasged a nofio           
Profiad Olympaidd: Cystadlu am y tro cyntaf
Medalau: Camp Lawn Taekwondo (Aur 2018), Grand Prix Taekwondo (Aur 217 a 2018, Arian 2018, Efydd 2018), Pencampwriaethau Ewropeaidd (Aur 2016 a 2018, Arian 2021)
Anrhydeddau Eraill:

Bydd Lauren Williams yn cystadlu am y tro cyntaf yn y Gemau Olympaidd yn Tokyo yn 2020. Ar ôl rhoi cynnig ar amrywiaeth o wahanol chwaraeon wrth dyfu i fyny, bydd Lauren eisiau cicio ei ffordd i lwyddiant Olympaidd mewn taekwondo.

Yn ddim ond 6 oed, enillodd Lauren ei theitl byd cyntaf. Ond nid mewn taekwondo. Cicbocsio oedd Lauren yn ffynnu ynddo fel plentyn. Oni bai am aelod arall o dîm cyfredol Prydain Fawr, Jade Jones, yn ennill Aur Olympaidd yn 2012, gallai Lauren fod wedi dilyn llwybr gwahanol.

Ym mha glwb wnaeth Lauren ddechrau cymryd rhan mewn taekwondo?

Yn esiampl brin, ni ddechreuodd Lauren gymryd rhan mewn taekwondo mewn clwb – cafodd ei chyflwyno i’r gamp drwy’r cynllun Fighting Chance. Ei chlwb cyntaf oedd Crefftau Ymladd y Devils, lle’r oedd cyd-Olympiad yn Team GB, Lauren Price, yn aelod hefyd ar un adeg.

Un peth doeddech chi ddim yn ei wybod am Lauren Williams

Wrth iddi eistedd yng ngharafan y teulu, yn gwylio Gemau Olympaidd 2012 ar y teledu, fe wnaeth  perfformiad cyd-aelod o dîm Lauren yn y dyfodol, Jade Jones yn ennill y Fedal Aur, ysbrydoli Lauren i ystyried newid o gicfocsio i Taekwondo. 

Ar ba ddyddiadau fydd Lauren yn cystadlu yn Tokyo 2020?

Dydd Llun, Gorffennaf 26