Skip to main content

Leah Wilkinson - Hoci

Chwaraewr Hoci Cymru, Leah Wilkinson

Enw: Leah Wilkinson      
Ganwyd yn: Burton-on-Trent, Lloegr
Ysgol(ion): Ysgol Ewell Castle (athrawes)
Clwb (Clybiau): Clwb Hoci Belper, Clwb Hoci Sutton Coldfield, Clwb Hoci Holcombe, Reading, Loughborough, Clifton
Safle: Amddiffynnwr
Chwaraeon Eraill: 
Profiad Olympaidd: Cystadlu am y tro cyntaf
Medalau: 
Anrhydeddau Eraill: Yr athletwr sydd wedi ennill y nifer mwyaf o gapiau dros Gymru (169 o gapiau), capten Hoci Cymru (2017 – presennol), Prydain Fawr (13 o gapiau)

Gyda llawer iawn o brofiad sy'n cynnwys cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad deirgwaith, 169 o gapiau dros Gymru a bod yn gapten ar ei gwlad, bydd Leah Wilkinson, 34 oed, yn cystadlu am y tro cyntaf yn y Gemau Olympaidd pan fydd hi'n cynrychioli Team GB yn Tokyo yr haf yma.

Bydd wyneb cyfarwydd iawn ochr yn ochr â Leah yn y tîm oherwydd bydd ei phartner a'i chyd-chwaraewr o Gymru, Sarah Jones, yn ymuno â hi.

Ym mha glwb wnaeth Leah ddechrau chwarae hoci?

Dechreuodd Leah chwarae hoci gyda Chlwb Hoci Belper yn Sir Derby lle’r oedd yn byw gyda’i theulu, sy’n hanu o Abertawe.       

Un peth doeddech chi ddim yn ei wybod am Leah Wilkinson

Pan nad yw'n chwarae hoci, mae Leah yn athrawes hanes ac yn Bennaeth Blwyddyn 10 yn Ysgol Ewell Castle. Bydd yn gobeithio creu rhywfaint o hanes ei hun ac ysbrydoli ei disgyblion drwy efelychu llwyddiant medal Aur Rio 2016 tîm hoci Team GB yn Japan.

Ar ba ddyddiadau fydd Leah yn cystadlu yn Tokyo 2020?

Dydd Sul, Gorffennaf 25 - yn erbyn yr Almaen (01.30 BST)
Dydd Llun, Gorffennaf 26 - yn erbyn De Affrica (10.30)
Dydd Mercher, Gorffennaf 28 - yn erbyn India (02:00)
Dydd Iau, Gorffennaf 29 - yn erbyn yr Iseldiroedd (11:00)
Dydd Sadwrn, Gorffennaf 31 - yn erbyn Iwerddon (10.30)

Dydd Mercher, Awst 4 - Rowndiau Terfynol (02: 30/10: 00)
Dydd Gwener, Awst 6 - Gêm y Fedal Efydd (02:30)
Dydd Gwener, Awst 6 - Gêm y Fedal Aur (11:00)