Natalie Powell - Jiwdo
Enw: Natalie Powell
Ganwyd yn: Merthyr Tudful, Cymru
Ysgol(ion):
Clwb (Clybiau): Clwb Jiwdo Irfon
Cystadleuaeth: -78kg
Chwaraeon Eraill:
Profiad Olympaidd: Rio 2016 (7fed safle)
Medalau: Gemau’r Gymanwlad (Aur 2014), Pencampwriaethau Byd (Efydd 2017), Pencampwriaethau Ewropeaidd (Efydd 2016, 2017, 2018)
Anrhydeddau Eraill: Y Fenyw Gyntaf o Brydain i fod yn Rhif 1 y Byd
Mae Natalie yn mynd i Tokyo 2020 yr haf yma i ennill medal Aur Olympaidd. Gan gyfaddef mai hwn yw ei chyfle olaf, mae hi'n gobeithio gwella ei pherfformiad o 7fed safle yn Rio 2016 i gael lle ar y podiwm yn y Gemau Olympaidd eleni.
Os bydd Natalie yn ennill medal, y chwaraewr 30 oed fydd y judoka cyntaf o Gymru i wneud hynny ar ôl dod y judoka cyntaf o Gymru i gystadlu yn y Gemau Olympaidd yn ôl yn 2016.
Ym mha glwb wnaeth Natalie ddechrau cymryd rhan mewn jiwdo?
Gartref gyda Chlwb Jiwdo Irfon yn Llanfair-ym-Muallt y dysgodd Natalie ei chrefft am y tro cyntaf. Ymunodd â rhaglen Prydain cyn ceisio newid dull a dychwelyd i Gymru i hyfforddi yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru.
Un peth doeddech chi ddim yn ei wybod am Natalie Powell
Perfformiad Heptathlon Denise Lewis a gipiodd yr Aur yn Sydney 2000 yw atgof Olympaidd cyntaf Natalie. Gan ei bod yn hoffi pob camp, roedd hi wrth ei bodd bod Denise yn gallu bod y gorau ym mhopeth ac fe ysbrydolodd Natalie i fod eisiau llwyddo yn y Gemau Olympaidd
Ar ba ddyddiadau fydd Natalie yn cystadlu yn Tokyo 2020
Dydd Iau, Gorffennaf 29