Skip to main content

Sophie Ingle - Pêl Droed

 Sophie Ingle ifanc

Enw: Sophie Ingle
Ganwyd yn: Llandochau, Cymru
Ysgol(ion): 
Clwb (Clybiau): Vale Wanderers, Dinas Powys, Dinas Caerdydd, Chelsea, Academi Bryste, Lerpwl, Chelsea
Safle: Amddiffynnwr / Chwaraewr Canol Cae
Chwaraeon Eraill: 
Profiad Olympaidd: Cystadlu am y tro cyntaf
Medalau: Uwch Gynghrair Merched yr FA (2019/20, 2020/21), Cwpan Cynghrair y Merched yr FA (2019/20)
Anrhydeddau Eraill: Cymru (104 o gapiau), Capten Cymru

Sophie Ingle fydd y fenyw gyntaf erioed o Gymru i gynrychioli tîm pêl droed Team GB yn y Gemau Olympaidd. Fel unig gynrychiolydd Cymru yn y garfan, bydd yn cystadlu am y tro cyntaf yng Ngemau Olympaidd Tokyo 2020.

Wedi chwarae dros gant o gemau dros ei gwlad, mae capten Cymru bellach yn cael cyfle i ychwanegu medal Aur at ei theitlau cefn wrth gefn yn yr Uwch Gynghrair mae hi wedi’u hennill gyda Chlwb Pêl Droed Chelsea.

Ym mha glwb wnaeth Sophie ddechrau chwarae pêl droed?

Sophie oedd yr unig ferch yn nhîm pêl droed Vale Wanderers hyd nes oedd hi’n 12 oed, pan nad oedd hi'n cael rhannu'r cae gyda’r bechgyn mwyach. Diolch byth, sefydlodd ei chyn reolwr dîm merched wnaeth ei gosod hi ar y llwybr i’r Gemau Olympaidd.

Un peth doeddech chi ddim yn ei wybod am Sophie Ingle

Enwebwyd gôl syfrdanol Sophie dros Chelsea yn erbyn Arsenal yn yr Uwch Gynghrair am wobr Puskás FIFA yn 2020, sy’n cael ei dyfarnu i’r chwaraewr sydd wedi sgorio’r gôl harddaf yn ystod y flwyddyn galendr honno. Edrychwch ar y gôl drawiadol eich hun yma.

Ar ba ddyddiadau fydd Sophie yn cystadlu yn Tokyo 2020?

Dydd Mercher, Gorffennaf 21 - 08:30 yn erbyn Chile. 
Dydd Sadwrn, Gorffennaf 24 - 11:30 yn erbyn Siapan. 
Dydd Mawrth, Gorffennaf 27 - 12:00 yn erbyn Canada.

Dydd Llun, Awst 2 - 09:00 - 15:00 Rownd Gynderfynol. 
Dydd Iau, Awst 5 - 08:00 - Gêm y Fedal Efydd. 
Dydd Gwener, Awst 6 - 03:00 - 06:00 - Gêm y Fedal Aur