Tom Barras - Rhwyfo
Enw: Tom Barras
Ganwyd yn: Staines, Lloegr
Ysgol(ion): Prifysgol Caerdydd
Clwb (Clybiau): Clwb Rhwyfo Burway ,Clwb Rhwyfo Prifysgol, Clwb Leander
Cystadleuaeth: Pedwarawd Rhwyfo'r Dynion
Chwaraeon Eraill:
Profiad Olympaidd: Cystadlu am y tro cyntaf
Medalau: Pencampwriaeth y Byd (Efydd 2017)
Anrhydeddau Eraill:
Ar ôl ennill Efydd ym Mhencampwriaeth y Byd fel rhwyfwr sengl yn 2017, bydd Tom Barras yn cystadlu am y tro cyntaf yn y Gemau Olympaidd fel rhan o dîm y Pedwarawd Rhwyfo.
Er bod tîm rhwyfo Team GB fel arfer yn profi llwyddiant ar y dŵr, nid yw erioed wedi dychwelyd gyda medal yn y gystadleuaeth Pedwarawd Rhwyfo ers iddi gael ei chyflwyno yn 1976. Bydd Tom yn gobeithio y gall ei brofiad a’i allu fel rhwyfwr sengl helpu i ddod â’r cyfnod hwnnw i ben.
Ym mha glwb wnaeth Tom ddechrau rhwyfo?
Yn ddim ond 11 oed, dechreuodd Tom rwyfo yng Nghlwb Rhwyfo Burway a chymerodd at y gamp fel hwyaden at ddŵr. Datblygwyd ei sgiliau ymhellach ar Afon Taf fel rhan o dîm Prifysgol Caerdydd lle aeth Tom ymlaen i gynrychioli Cymru.
Un peth nad oeddech chi'n ei wybod am Tom Barras
Y tu allan i'r byd rhwyfo, mae Tom yn ffisiotherapydd ac yn gynghorydd maeth. Fetiai chi bod ei gyd-chwaraewyr yn gwybod at bwy i droi pan fydd ganddyn nhw gefn poenus!
Pa ddyddiadau fydd Tom yn cystadlu yn Tokyo 2020?
Dydd Gwener, Gorffennaf 23 - Rhagbrofion (03:30 BST)
Dydd Sul, Gorffennaf 25 - Repechage (02:40)
Dydd Mawrth, Gorffennaf 27 - Terfynol B (01:34)
Dydd Mawrth, Gorffennaf 27 - Ras y Fedal (01:58)