Skip to main content

Llwyddiannau Cymreig y Gemau dros y flynnyddoedd

  1. Hafan
  2. Chwaraeon Perfformiad
  3. Llwyddiannau Cymreig y Gemau dros y flynnyddoedd

Mae rhai o eiliadau Olympaidd a Pharalympaidd mwyaf cofiadwy Tîm Prydain Fawr wedi digwydd diolch i athletwyr anhygoel o Gymru.

Rydyn ni’n edrych yn ôl ar Gemau’r gorffennol i ddathlu llwyddiannau Cymru ar lwyfan y byd. Sgroliwch i lawr a chael eich ysbrydoli!

Jade Jones yn dathlu gyda'i breichiau yn yr awyr wrth iddi ennill aur Olympaidd

Gyda’r llysenw “The Headhunter” oherwydd ei bod yn well ganddi sgorio trwy giciau i’r pen, gwnaeth Jade Jones hanes yn Llundain 2012 trwy ddod yn enillydd medal aur Olympaidd taekwondo cyntaf Prydain.

Tanni Grey-Thompson yn eistedd ar y podiwm, gyda blodau yn ei llaw, torch ar ei phen, yn gwisgo ei medal aur

Enillodd Tanni Grey-Thompson ddwy fedal aur yn ei Gemau Paralympaidd olaf erioed, yn Athen 2004. Enillodd 16 o fedalau Paralympaidd yn ystod ei gyrfa ryfeddol.

Geraint Thomas, Ed Clancy, Bradley Wiggins a Paul Manning yn sefyll gyda'u medalau aur Olympaidd

Ffrwydrodd wyneb newydd Geraint Thomas ar y llwyfan Olympaidd yn Beijing 2008 gan ennill aur ar ei ymddangosiad cyntaf yn nhîm y dynion gydag Ed Clancy, Paul Manning a Bradley Wiggins!

Aled Sion Davies yn dal baner Cymru i fyny i ddathlu ennill y fedal aur

Gosododd Aled Sion Davies record F42 Baralympaidd newydd yn Rio 2016, gan hawlio'r aur i Dîm Para GB.

Saskia Clarke yn cofleidio Hannah Mills wrth iddi ddal ei medal aur i fyny

Ail-fyw moment aur Rio 2016, lle bu Hannah Mills a Saskia Clark yn fuddugol yn Nosbarth 470 y Merched, gan ennill Aur am.

David Smith, yn gwenu ac yn gwisgo ei fedal aur

David Smith yn dathlu ei drydedd medal aur yng Ngemau Paralympaidd Tokyo 2020, gan ei wneud y chwaraewr Boccia Prydeinig sydd wedi ennill y nifer mwyaf o fedalau erioed!

Lauren Price yn dal ei medal aur Olympaidd i fyny ac yn pwyntio at y geiriau ‘Great Britain’ ar ei brest

Tafliad yn ôl i’r Gemau Olympaidd diwethaf lle cipiodd Lauren Price o Gymru fedal olaf Tîm GB o Tokyo 2020 adref!

Mark Colbourne yn dal baner Prydain i fyny wrth iddo feicio, gan ddathlu ei fod wedi ennill medal aur

Y foment wych pan enillodd Mark Colbourne fedal aur yng Ngemau Paralympaidd Llundain 2012, ar ôl torri record byd yn yr erlid unigol C1 3kn.

Athletwyr Olympaidd Cymru ym Mharis 2024

Dyma’r athletwyr o Gymru fydd yn cynrychioli Tîm Prydain Fawr ym Mharis 2024.

Darllen Mwy

Paralympiaid: Athletwyr Cymru ym Mharis 2024

Dyma’r athletwyr o Gymru fydd yn cynrychioli ParaGB ym Mharis 2024.

Darllen Mwy

Sut mae'r Loteri Genedlaethol yn Cefnogi Chwaraeon Elitaidd yng Nghymru

Heb gyllid gan y Loteri Genedlaethol, ni fyddai llawer o’r gefnogaeth sy’n cael ei rhoi i athletwyr…

Darllen Mwy