Skip to main content

Boss Brewing – Talking to your Customers

  1. Hafan
  2. CLIP
  3. Bod yn Berson-Ganolog
  4. Boss Brewing – Talking to your Customers

Mae Boss Brewing yn fragdy llwyddiannus sydd wedi ennill gwobrau ac mae wedi’i leoli yn Abertawe. Mae’r cydsylfaenydd a’r cyfarwyddwr gwerthiant a marchnata, Sarah John, yn gwybod ambell beth am weithio’n llwyddiannus gyda chynulleidfaoedd gan fod y cwmni bellach yn gwerthu ledled y DU ac mae ganddo gynlluniau mawr ar gyfer y dyfodol. Dyma ei chyngor doeth i chi ar gyfer ychwanegu gwerth at eich cynnwys, mesur eich llwyddiant a gweithio’n fwy effeithiol. 

Pa mor dda ydych chi’n adnabod eich cwsmeriaid? Hwn fydd y cwestiwn pwysicaf wnewch chi ei ateb ym myd busnes oherwydd os nad yw eich cynulleidfa’n gallu uniaethu â chi, sut ydych chi’n mynd i’w cael i brynu gennych chi? Dyheadau, anghenion, pryderon a phoenau eich cynulleidfa ddylai fod yn brif flaenoriaeth i chi bob amser, felly dyma fy 6 chyngor ar gyfer eu hadnabod tu chwith allan, wyneb i waered. 

Sarah John, Boss Brewing

 

1.    Cynnal arolygon a pholau   

Mae’n swnio’n amlwg, ond mae’n rhywbeth mae cymaint o gwmnïau’n ei ddiystyru – os ydych chi eisiau cael gwybod mwy am eich cynulleidfa, gofynnwch gwestiynau iddyn nhw! Mae cymaint o ffyrdd am ddim i chi gasglu eu safbwyntiau ar-lein. Ewch ati i greu a lansio arolwg gan ddefnyddio adnodd fel Survey Monkey. Mae gan Facebook a Twitter swyddogaeth ar gyfer cynnal polau ar eich tudalennau busnes. Mae Instagram yn galluogi i chi ofyn cwestiynau fel rhan o’ch stori, gan gynnwys rhai gydag ‘ie’ neu ‘na’ syml fel ateb. Yr hyn sy’n dda am bolau ar gyfryngau cymdeithasol yw y cewch chi nifer da o ymatebion y gallwch eu mesur fel rheol, ond hefyd ymhelaethu pellach yn y sylwadau, sy’n rhoi gwybodaeth fanylach fyth i chi ac esboniadau a chyfiawnhad. Gall gofyn cwestiynau i’ch cynulleidfa eich helpu chi i ddeall nid dim ond eu barn am eich cynhyrchion a ble ddylech chi fynd nesaf, ond hefyd eu barn am faterion cyfoes ehangach sydd â chysylltiad uniongyrchol â’ch diwydiant ac a all gael effaith ar eich strategaeth. Er enghraifft, ers dechrau’r cyfyngiadau symud, rydw i wedi cynnal polau ar sawl platfform cyfryngau cymdeithasol i gasglu barn fy nghynulleidfa ynghylch a ddylem ni ryddhau cwrw di-alcohol (ein cynhyrchion) ai peidio, a hefyd pa mor barod maen nhw’n teimlo i ddychwelyd i dafarndai pe bai cyhoeddiad yn cael ei wneud ynghylch eu hailagor (materion cyfoes). Yr ateb i’r olaf, os oes gennych chi ddiddordeb, oedd na pendant!       

2.    Ateb eu hymholiadau yn bersonol                 

Gall ymholiadau cwsmeriaid ein cyrraedd ni ar blatfformau amrywiol y dyddiau hyn – negeseuon e-bost, negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol, negeseuon testun – a gall fod yn anodd iawn ymdopi â’r holl sianelau cyfathrebu bob amser, yn enwedig pan rydych chi’n fusnes bach. Bydd gan y rhan fwyaf o fusnesau, gan gynnwys fy un i, ymadroddion stoc safonol i ateb cwestiynau ac ymholiadau cyffredin, sydd weithiau’n cael eu haddasu ryw ychydig ar gyfer pob ymholiad – ac wrth gwrs mae hyn yn effeithlon ac yn synnwyr busnes da. Fodd bynnag, o dro i dro, mae’n fuddiol torri oddi wrth yr ymatebion ‘awtomatig’ yma a newid pethau, gan ofyn rhai cwestiynau nad yw’r cwsmeriaid yn eu disgwyl ac wedyn creu ateb mwy personol ac wedyn perthynas. Rydw i wedi bod â mwy o amser ar fy nwylo fel y rhan fwyaf ohonom ni ers y cyfyngiadau symud, felly rydw i wedi bod yn defnyddio’r dechneg yma tra oedd gen i amser. Rydw i wedi gofyn cwestiynau mwy cyffredinol iddyn nhw ynghylch pam maen nhw wedi dewis defnyddio ein gwasanaeth dosbarthu i’r cartref a sut maen nhw’n teimlo yn ei gylch, ac wedyn cwestiynau ehangach a mwy personol ynghylch sut brofiad yw’r cyfyngiadau symud iddyn nhw, sut mae eu harferion prynu wedi newid ac ati. Mae’r rhan fwyaf o gwsmeriaid yn cael eu synnu gan ymateb mor bersonol, ac yn hoffi hynny, a byddant yn ddiolchgar eich bod wedi dangos diddordeb ynddyn nhw fel person, gan agor eu calon a rhoi gwybodaeth werthfawr i chi amdanyn nhw fel eich cynulleidfa o ganlyniad. Drwy ddefnyddio’r dechneg hon y dois i i weld pa mor ffyddlon yw ein cwsmeriaid ni a faint ohonyn nhw (llawer) oedd yn gwneud mwy fyth o archebion er mwyn ein cefnogi ni am eu bod nhw eisiau ein helpu ni drwy’r cyfnod anodd yma. Mae’n dechneg sy’n cymryd llawer o amser ac ni fyddech eisiau ei defnyddio drwy’r amser, ond mae’n ddefnyddiol ei rhoi ar waith yn achlysurol yn ystod cyfnodau tawelach.         

3.    Mesur eu sylwadau, eu rhyngweithio a’u hymgysylltu

Fel mae’r dywediad yn ei ddweud, cynnwys yw popeth ac mae ansawdd eich negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol yn hanfodol, ond dim ond os ydyn nhw’n safonol i’r bobl maen nhw’n bwysig iddyn nhw - eich cynulleidfa – maen nhw’n llwyddiannus. Cadwch lygad fanwl ar y sylwadau a’r ymatebion hoffi ar draws eich holl blatfformau – Facebook, Twitter, Instagram ac ati – a mesur sut mae pobl yn ymateb. Gall llawer o ymatebion hoffi a rhannu i un neges benodol ddynodi eich bod wedi taro nodyn pwysig gyda’ch cynulleidfa. Mae’r sylwadau eu hunain fel aur gan eu bod yn galluogi i chi fynd i mewn i feddwl eich cynulleidfa a beth mae’n ei feddwl ac yn ei deimlo mewn perthynas â chynnyrch neu fater penodol. Yn gyffredinol, po fwyaf o ymateb sydd i neges (hoffi, rhannu, sylwadau), y mwyaf y mae’r gynulleidfa wedi gallu uniaethu â hi, sy’n golygu y dylech fod yn gwneud mwy o hyn mae’n debyg. Os nad yw ymgyrch benodol yn cael prin unrhyw ryngweithio, mae’n bur debyg nad yw’r neges yn apelio at eich cynulleidfa. Mesurwch y metrigau hyn dros amser i ddarganfod patrymau a sicrhau dealltwriaeth o’ch cynulleidfa fel pobl, eu gwerthoedd a’u pryderon, a beth maen nhw ei eisiau gennych chi. 

4.    Creu Persona Cwsmer     

Gall y weithred hon ei hun swnio’n wrthgynhyrchiol a gallech gael maddeuant am feddwl ‘sut gallaf i greu persona cwsmer cyn dod i ddeall fy nghynulleidfa yn llawn?’. Fodd bynnag, bydd y weithred o fapio eich cwsmer yn eich gorfodi i feddwl am bwy yw eich cynulleidfa yn union - a bydd hyn yn creu bylchau eithriadol amlwg yn eich gwybodaeth am eich torf. Ewch y tu hwnt i’r statws amlwg fel rhywedd, oedran ac economaidd-gymdeithasol. Yn hytrach, lluniwch amlinelliad o’ch ‘cwsmeriaid targed’ perffaith sy’n mynd i fanylder mawr. Pa lefel o addysg sydd ganddyn nhw? Beth yw eu sefyllfa deuluol? Ble maen nhw’n hoffi siopa? Ble maen nhw’n gweithio? Sut maen nhw’n hoffi ymlacio? Beth am nodweddion eu personoliaeth, eu gwerthoedd a’u moesau? Ar ôl i chi sefydlu hyn, gallwch weithredu mewn ffordd person-ganolog wrth wneud penderfyniadau, gan sicrhau bod lansiad cynnyrch neu wasanaeth newydd, er enghraifft, yn cael ei gynllunio gan feddwl am y person yma. Gallwch hefyd ofyn i chi eich hun a ydych chi’n marchnata eich brand yn effeithiol i’r gynulleidfa briodol ac a oes gan eich cynulleidfa bresennol y nodweddion a’r ddemograffeg darged yma ai peidio. Yn fwy na hynny, os nad ydych chi’n gwybod a oes gan eich cynulleidfa bresennol y nodweddion hyn, bydd yn tynnu sylw at yr angen am ymwneud â’r holl strategaethau eraill a awgrymir er mwyn dod i adnabod eich cynulleidfa yn well.

5.    Gweithio gyda hwy’n bersonol

Beth bynnag yw eich cynnyrch neu eich gwasanaeth, chwiliwch am gyfleoedd i gyfarfod eich cwsmeriaid wyneb yn wyneb (dim esgusion) er mwyn tyrchu’n ddyfnach i ddeall beth sy’n rhoi boddhad iddyn nhw. Gweithgynhyrchu cwrw yw ein prif ffocws ni, ond mae gennym ni far ar y safle hefyd. Rydw i’n ymweld â’r ystafell honno’n fwriadol ddwywaith y mis o leiaf, gan siarad gyda’r bobl sydd wedi galw heibio i yfed ein cwrw ni. Er bod hyn yn cymryd amser ac yn sicr nid yw’n feintiol, mae’r hyn rydw i’n ei ddysgu am fy nghwsmeriaid ar lefel ansoddol yn amhrisiadwy ac yn werth yr amser rwy’n ei fuddsoddi. Mae’n gyfle i mi gael sgwrs bersonol, fanwl gyda hwy am bopeth o PAM ein cwrw/bar ni i’w stori a’u cefndir a phwy ydyn nhw fel pobl. Efallai y bydd eich cyfle chi i ymwneud â’ch cwsmeriaid wyneb yn wyneb yn codi mewn sioe fasnach neu arddangosfa. Beth bynnag fydd y cyfle, gwnewch amser iddo oherwydd wedyn gallwch ddod i ddeall eich cwsmeriaid ar lefel lawer mwy personol.

6.    Gwneud defnydd o ddadansoddeg ar gyfryngau cymdeithasol 

Diolch i’r ffaith bod gan Twitter a Facebook eu gwasanaethau dadansoddi mewnol eu hunain, does dim rhaid i hyn fod yn gymhleth – dim hyd yn oed i’r technoffobau mwyaf. Os ydych chi’n defnyddio Google Analytics hefyd, croesgyfeiriwch y setiau o ddata a dylent gyfateb yn fras. Er bod yr wybodaeth am y gynulleidfa ar Twitter wedi cael ei dileu yn anffodus, mae’r ddadansoddeg yn darparu manylion amhrisiadwy i chi, fel y neges trydar sydd wedi perfformio orau i chi bob mis, fel eich bod yn cael gweld beth sydd o ddiddordeb i’ch cynulleidfa. O ran Facebook Insights, mae’n gwneud yn union beth mae’n ei ddweud! Mae’n rhoi gwybodaeth hynod werthfawr i chi am ddata personol eich dilynwyr ar Facebook. Un peth mae’n alluogi i chi ei wneud yw tyrchu i ddemograffeg eich dilynwyr, gan ddarparu ffenest ar bethau fel eu hoedran, eu rhywedd a ble maen nhw’n byw. Mae’n eu grwpio gyda’i gilydd gan ddefnyddio siartiau defnyddiol, gan roi persona i chi ar gyfer eich dilynwr mwyaf nodweddiadol a’ch helpu chi i wybod pwy i’w targedu. Yn bersonol, rydw i wrth fy modd gyda’r swyddogaeth ar Facebook sy’n galluogi i chi weld yn union PRYD mae eich cefnogwyr chi ar-lein. Efallai nad yw’n dweud wrthych chi pa dîm pêl droed maen nhw’n ei gefnogi na beth maen nhw’n ei hoffi i frecwast, ond mae’n werthfawr gwybod pryd maen nhw fwyaf tebygol o weld eich negeseuon ac ymateb?! Gwerth ei bwysau mewn aur!

Felly dechreuwch arni heddiw a cheisio rhoi cynnig ar y technegau hyn eich hun os nad ydych chi’n gwneud hynny eisoes. Hyd yn oed os ydych chi’n meddwl bod gennych chi syniad eithaf da eisoes o bwy yw eich cwsmeriaid chi, mae’n amhosib eu hadnabod yn rhy dda fyth.     

Fe fyddwn i wrth fy modd yn cael gwybod pa arferion fyddech chi’n eu hargymell ar gyfer gweld beth sydd ar feddwl ac yng nghalon eich cwsmeriaid, felly beth am ddechrau sgwrs yn y sylwadau!     

Facebook.com/bossbrewingco

Twitter - @bossbrewingco

Insta - bossbrewingco

Linked In - http://linkedin.com/in/sarah-john-994058146

Www.bossbrewing.co.uk