Mae hi bob amser yn her cadw i fyny â phlant a phobl ifanc y dyddiau hyn. Ond gall y cyfryngau cymdeithasol wneud hynny ar eich rhan chi.
Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn esblygu drwy’r amser - ac yn enwedig wrth feddwl am bobl ifanc. Mae platfformau digidol yn mynd ati i gofleidio addysg gyda chynnwys fideo yn flaenllaw yn eu meddwl.
Felly byddwch ar y blaen a dysgu sut gallwch chi ddefnyddio'r sianeli hyn yn strategol i gyflawni ein nodau o fod yn genedl actif.
Am y Darparwr
Mae Stuart Rowson yn dychwelyd i CLIP i ymchwilio'n ddyfnach i ddeall pobl ifanc a'u cael yn rhan o unrhyw gynnwys. Yn gweithio ar hyn o bryd ochr yn ochr â Chlwb Pêl Droed Chelsea, bydd Stuart yn rhannu ei wybodaeth o fewn y byd chwaraeon am gyrraedd plant a phobl ifanc yn eu harddegau drwy gyfryngau cymdeithasol.
Beth fydd y sesiwn yma’n ei gynnwys?
- Cyrhaeddiad - Pwysigrwydd segmentu penodol
- Gwybodaeth - Pwysigrwydd data a dirnadaeth
- Nodau – Eisiau ymgysylltu? Cynyddu cynulleidfa? Cynyddu cyfranogiad?
- Y Platfformau Cyfryngau Cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar blant a phobl ifanc yn eu harddegau
- Cynnwys Wedi’i Brofi a sut i'w ddefnyddio
- Holi ac Ateb