Skip to main content

Creu cynnwys gyda chyllideb benodol

  1. Hafan
  2. CLIP
  3. Cyfathrebu a Digidol
  4. Creu cynnwys gyda chyllideb benodol

Ydych chi eisiau creu cynnwys cyfryngau cymdeithasol o’r safon uchaf ac ymgysylltu â'ch cynulleidfaoedd mewn ffordd sydd ddim yn torri'r banc? Gall cynhyrchu cynnwys sy'n sicrhau canlyniadau heb amser neu gyllideb fod yn anodd. Felly, rydyn ni eisiau gwneud pethau'n haws i chi!

Mae'r byd cyfathrebu yn esblygu'n barhaus gydag adnoddau a thechnegau'n cael eu diweddaru'n gyson. Fel rhan o raglen CLIP, bydd y sesiwn am ddim yma’n eich arwain chi drwy'r adnoddau am ddim y gallwch eu defnyddio a'r holl ddylanwadwyr perthnasol. Byddwch hefyd yn dysgu am yr haciau ymgysylltu diweddaraf a sut i gasglu cynnwys sy’n cael ei gynhyrchu gan ddefnyddwyr.

Sicrhewch eich lle heddiw a byddwch yn barod i gynyddu eich presenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol.

Am y sesiwn

Bydd WCS Agency yn rhannu eu hawgrymiadau ar gyfer creu cynnwys sydd nid yn unig yn edrych yn dda, ond sy’n sbarduno canlyniadau ar gyfer sector chwaraeon Cymru.

Yn ystod y sesiwn byddwch yn dysgu am y canlynol:

  • Adnoddau am ddim fel Canva
  • Sut i ddefnyddio'ch athletwyr yn y ffordd orau
  • Defnyddio straeon o'r gymuned
  • Cynnwys wedi’i gynhyrchu gan ddefnyddwyr
  • Adnoddau cymdeithasol fel polau piniwn a chystadlaethau
  • Rhestrau / cynnwys bytholwyrdd
  • Fideos ar eich ffôn
  • Cefnogaeth i fyfyrwyr
  • Micro-ddylanwadwyr
  • Cydweithio â sefydliadau eraill

Am y cyflwynwyr

Mae WCS yn asiantaeth farchnata gwasanaeth llawn sydd wedi'i lleoli yng Nghaerdydd. Mae marchnata yn fwy na chylchlythyrau achlysurol, cyfrif faint o bobl sy’n hoffi eich deunydd chi ar Instagram, a meddwl tybed 'efallai bydd hwn yn mynd yn feiral'. Mae'n strategol, yn fesuradwy ac yn ystyrlon - heb sôn am amhosib ei anwybyddu i'ch cynulleidfa darged. Nid rhyw sbloets dros dro yw ein pethau ni. Rydyn ni’n cefnogi sefydliadau i adeiladu eu brandiau gyda marchnata sydd nid yn unig yn edrych y rhan ond yn darparu canlyniadau tryloyw, diriaethol - dro ar ôl tro.

Ellie

Mae Ellie yn rheolwr cyfrif marchnata strategol a chwaethus. Gyda’i llygad craff am ddadansoddiad DPA manwl a chynnwys cymdeithasol sy’n trendio, mae Ellie wedi dod yn aelod amhrisiadwy o dîm WCS yn gyflym. Mae hi'n arbenigwraig wych o ran creu cynlluniau marchnata strategol sy'n sbarduno canlyniadau i'n cleientiaid.

Renee

Mae Renee yn feistr ar y cyfryngau cymdeithasol gyda dealltwriaeth ddofn o'r tueddiadau a'r nodweddion diweddaraf ar wahanol blatfformau. Mae hi'n cadw ar ben yr heriau feiral diweddaraf ac yn gwybod sut i greu cynnwys deniadol a difyr y mae cynulleidfaoedd yn gallu uniaethu ag o.

 

Mewngofnodwch i archebu eich lle