Cyfathrebu Mewn Argyfwng - Canllaw i Ddechreuwyr
Y foment honno yn y gwaith rydyn ni'n ei hofni fwyaf - mae argyfwng yn taro ac rydych chi yn ei chanol hi. Ac waeth i ni wynebu hynny ddim, mae’r foment honno yn mynd i ddod.
Ond gall rhywfaint o baratoi da, a chyfathrebu, eich helpu chi i ddod allan yr ochr arall yn y cyflwr gorau posibl.
Bydd y sesiwn yn canolbwyntio ar gyfathrebu yn ystod argyfwng, ac yn rhoi sylw i’r canlynol:
1. Deall y mathau o argyfwng a’r cyfnodau mewn argyfwng
2. Pwysigrwydd paratoi (a sut i wneud hynny)
3. Cyfathrebu dan bwysau
4. Dod allan yr ochr arall, dysgu ac ailadeiladu
Bydd y sesiwn yn cynnwys enghreifftiau o arfer da a gwael; awgrymiadau ymarferol; ac argymhellion ar gyfer y camau nesaf.
Am y Cyflwynydd
Mae gan John Wilkinson 30+ mlynedd o brofiad mewn cysylltiadau cyhoeddus, marchnata, y cyfryngau a chyfathrebu gwleidyddol, gan gynnwys cyfathrebu llywodraeth leol a chanolog a 25 mlynedd o brofiad ym maes ymgynghoriaeth.
Yn ogystal â bod â Diploma Uwch Proffesiynol mewn Astudiaethau Cyfathrebu (gyda rhagoriaeth mewn Cysylltiadau Cyhoeddus), mae’n Ymarferydd Cysylltiadau Cyhoeddus Siartredig a hefyd yn Gymrawd ac Aelod o Gyngor y DU o’r Sefydliad Siartredig ar gyfer Cysylltiadau Cyhoeddus.
Ffocws ei ymgynghoriaeth Scruffy Dog PR yw darparu uwch gyngor strategol a hyfforddiant i helpu sefydliadau a'u harweinwyr i gyfathrebu'n well, ac felly gwella a diogelu eu henw da.