Rydych chi wedi siarad ac rydyn ni wedi gwrando - bydd CLIP yn mynd ar daith am y tro cyntaf! Ymunwch â ni yn y digwyddiad wyneb yn wyneb unigryw yma i ddysgu a rhwydweithio yn y Metropole yn Llandrindod.
Cyfathrebu yn y Gymraeg a Chwaraeon
Os gwnewch chi siarad â dyn mewn iaith mae’n ei deall, mae hynny’n mynd i’w ben. Os gwnewch chi siarad ag ef yn ei iaith ei hun, mae hynny'n mynd i’w galon
Mae bron i 30% o boblogaeth Cymru yn gallu siarad Cymraeg – mae hynny’n rhan fawr o’r bobl rydyn ni eisiau iddyn nhw gael mwynhad oes o chwaraeon. Yn ôl ein hymchwil, mae siaradwyr Cymraeg yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon ac o wirfoddoli na’r rhai sy’n siarad ieithoedd eraill felly maen nhw’n rhan werthfawr o’r seilwaith chwaraeon ac rydyn ni eisiau eu gweld yn cymryd rhan mewn chwaraeon ac yn parhau i wneud hynny.
Dyma pam ei bod yn bwysig ein bod ni, fel galluogwyr, hwyluswyr a darparwyr chwaraeon yng Nghymru, yn sicrhau ein bod yn cyfathrebu ac yn ymgysylltu â phobl sy’n siarad Cymraeg yn eu mamiaith.