Skip to main content

Cyflwyniad i Google Analytics 4

  1. Hafan
  2. CLIP
  3. Cyfathrebu a Digidol
  4. Cyflwyniad i Google Analytics 4

Mae Google Analytics 4 (GA4) yma! Os ydych chi'n monitro perfformiad eich gwefan gan ddefnyddio Universal Analytics Google, mae pethau ar fin newid. Fodd bynnag, os mai dyma'r tro cyntaf i chi glywed amdano yna mae nawr yn amser da i ddechrau. 

Mae Google Analytics 4 yn adnodd ar-lein am ddim y gallwch ei ddefnyddio i ddeall eich cynulleidfa yn well. Gall fod yn adnodd pwerus ar gyfer mesur effaith eich ymdrechion marchnata a sbarduno twf busnes. 

Gall y gwasanaeth ddadansoddi gweithgarwch eich gwefan a’ch prosesau rhyngweithio â chynulleidfaoedd, gan ddysgu pa gynnwys sy'n perfformio'n dda fel eich bod yn gwybod beth sy'n gweithio a beth y gellir ei wella. Yna gall y mewnwelediadau hyn lywio eich strategaethau marchnata a chyfathrebu i ddefnyddio'r strategaethau a'r technegau cywir, gan ddefnyddio data y gallwch ei osod mewn ambell i glic. 

Bydd Universal Analytics Google yn dod i ben ar 1 Gorffennaf felly gadewch i ni baratoi ar gyfer y newid i GA4 yn y sesiwn ddysgu CLIP hon gyda WebAdept.

Gwybodaeth am y sesiwn

Wedi'i ddylunio i'ch helpu i feistroli'r llwyfan GA4 newydd, bydd y sesiwn 'Cyflwyniad i Google Analytics 4' hon yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud penderfyniadau sy'n cael eu gyrru gan ddata ac optimeiddio eich gwefan i sicrhau llwyddiant. 

Bydd y sesiwn hon yn cynnwys y canlynol

  • Gosod cyfrif GA4
  • Deall y Rhyngwyneb GA4
  • Tracio digwyddiadau
  • Creu adroddiadau a dangosfyrddau
  • Dadansoddi Data a Mewnwelediadau

Gwybodaeth am y darparwr

Wedi'i leoli yn Nhyddewi a Chaerdydd, mae’r arbenigwyr dylunio a datblygu gwefannau, WebAdept, wedi bod yn helpu busnesau gyda'u llwyddiant digidol ers 1997.

Mae eich darparwr Alix yn arbenigwr marchnata digidol a chanddi dros 10 mlynedd o brofiad. Mae hi'n helpu busnesau i gael yr hyn sydd ei angen arnynt o blatfformau fel GA4, ond mae hyd yn oed yn fwy angerddol am hyfforddi pobl i'w helpu i ddod â'r sgiliau marchnata digidol hyn yn fewnol.

Mewngofnodwch i archebu eich lle am ddim