Skip to main content

Cysylltu â chymunedau drwy gyfathrebu

  1. Hafan
  2. CLIP
  3. Cyfathrebu a Digidol
  4. Cysylltu â chymunedau drwy gyfathrebu

Ydych chi wedi cael eich briffio erioed i dargedu "pawb" fel rhan o'ch cynllun cyfathrebu? Ydych chi’n cael y teimlad yn aml y byddai eich cynllun cyfathrebu yn llawer mwy effeithiol pe byddech chi'n targedu cynulleidfa benodol yn lle targedu pawb?

Yn y sesiwn yma, byddwn yn dysgu am bwysigrwydd deall eich cynulleidfa cyn i chi ddechrau siarad â hwy, er mwyn i chi allu creu cysylltiadau gwell, a mwy ystyrlon, â chymunedau amrywiol Cymru.

Boed hynny drwy sicrhau mai'r cynnyrch rydych chi'n ei hyrwyddo yw'r hyn mae eich cynulleidfa ei eisiau mewn gwirionedd, bod eich deunydd creadigol a'ch negeseuon yn gynrychioliadol o bwy rydych chi'n ceisio cysylltu â hwy, neu eich bod chi'n gofalu i deilwra'ch tactegau cyfathrebu i ymddygiad eich cynulleidfa.

Byddwn yn clywed gan ac yn siarad ag arbenigwyr yn y maes hwn ac yn rhoi'r hyn rydyn ni wedi'i ddysgu ar waith mewn gweithdy rhyngweithiol.

Ymunwch â Rhwydwaith CLIP am rywfaint o ddysgu a rhwydweithio yn y digwyddiad hybrid yma ym Mharc yr Arfau, Caerdydd. Os na allwch chi ddod i’r sesiwn yma wyneb yn wyneb, byddwch yn gallu mynychu a chymryd rhan yn rhithwir.