Skip to main content

Sut i Gyfathrebu ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc

  1. Hafan
  2. CLIP
  3. Cyfathrebu a Digidol
  4. Sut i Gyfathrebu ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc

Lle mae cysylltiad WiFi, fel rheol gallwch ddod o hyd i berson ifanc ar-lein. A nawr, mae pobl ifanc yn ymgysylltu'n ddigidol yn fwy nag erioed. Ond yn aml gallant fod y gynulleidfa anoddaf i'w chyrraedd. Mewn byd o TikTok, Snapchat a dulliau cyfathrebu di-ri, gall fod yn her fawr dod o hyd i'r ffyrdd gorau o ennyn diddordeb pobl ifanc yn gadarnhaol mewn chwaraeon.

Dyma pam rydyn ni eisiau deall yr arferion, y technegau, a’r offer i gyrraedd pobl ifanc Cymru yn well.

Ymunwch â ni yn y sesiwn CLIP yma i gael gwybod sut i ymgysylltu â chenhedlaeth nesaf chwaraeon.

Am y Cyflwynydd

O Bedtime Stories ar CBeebies i Gemau Olympaidd Llundain, o ran plant a chwaraeon, mae Stuart Rowson yn gwybod sut i effeithio ar ei gynulleidfa. Mae Stuart yn arbenigwr aml-blatfform gyda gwerth dros ddegawd o brofiad mewn cyflwyno newid digidol a chymdeithasol ar draws y ddarpariaeth i Blant, Chwaraeon a Newyddion yn y BBC.

Beth fydd y sesiwn yma'n ei gynnwys

  • Gwaith Stuart yn y BBC - yr heriau a’r ystyriaethau allweddol wrth ddatblygu cynhyrchion fel Ap a Sianel You Tube CBeebies
  • Pobl Ifanc a'r Cyfryngau Cymdeithasol - Trosolwg cyffredinol, gyda rhai elfennau allweddol i'w gwneud â pheidio â'u gwneud wrth ddefnyddio'r prif blatfformau.
  • Defnyddio'r iaith briodol.
  • Pwysigrwydd ymgysylltu rhwng cymheiriaid.
  • Symud Ymlaen - rhai pwyntiau allweddol i ddylanwadu ar eich dull gweithredu yn y dyfodol.
  • Holi ac Ateb