Sut gallwch chi gadw plant yn actif gartref?
Wrth i'r cyfyngiadau dynhau dros y gaeaf, mae rhieni ac athrawon yn wynebu her gyfarwydd addysgu gartref a sicrhau bod llesiant eu plentyn yn cael sylw.
Gyda phawb yn treulio mwy o amser gartref, a gyda rhai cyfleusterau hamdden a chwaraeon yn parhau i wynebu cyfyngiadau, mae cadw'n actif ac yn iach yn anodd.
Ond mae bod yn actif mor bwysig i iechyd meddwl a chorfforol plentyn – ac felly bydd gwneud neu ddod o hyd i amser i gynnwys hyn yn eu diwrnod yn arwain at gymaint o fanteision iddyn nhw.
Mae ein hymchwil ni wedi dangos i ni bod lefelau gweithgarwch corfforol pobl ifanc wedi gostwng yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf yn 2020, ac felly mae'r sector chwaraeon wedi dod at ei gilydd fel rhan o ymgyrch #CymruActif i sicrhau bod y gostyngiad hwn mewn gweithgarwch yn cael ei osgoi yn ystod y cyfyngiadau symud yn 2021.
Rydyn ni'n gwybod ei bod yn anodd dod o hyd i'r cymhelliant, yr wybodaeth a'r hyder i annog y teulu i symud gartref, ond rydyn ni yma i'ch cefnogi chi bob cam o'r ffordd fel eich bod yn gallu mwynhau manteision chwaraeon yn ddiogel ac yn gyfrifol.