HELPU OEDOLION HŶN I DDAL ATI I SYMUD
Wrth i'r cyfyngiadau dynhau dros y gaeaf bydd pawb yn treulio mwy o amser gartref ac yn ei chael yn anodd dod o hyd i'r cymhelliant, yr hyder a'r wybodaeth i ddal ati i symud a bod yn actif.
Mae gwarchod eich hun wedi'i ailgyflwyno, mae'n llawer oerach a thywyllach nag yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf a gan fod rhai cyfleusterau hamdden a chwaraeon yn parhau i fod ar gau i'r cyhoedd, mae dal ati i fod yn actif ac yn iach yn anodd iawn i oedolion hŷn. Mae ein hymchwil ni wedi dangos bod lefelau gweithgarwch corfforol oedolion dros 55 oed wedi gostwng yn ystod cyfnod cyntaf cyfyngiadau'r pandemig.
Ond mae bod yn actif mor bwysig i iechyd meddwl a chorfforol unigolyn – o roi hwb i'r system imiwnedd i helpu i ymladd feirysau fel y Coronafeirws a chodi hwyliau rhywun a fydd yn helpu i drechu unigrwydd ac iselder.Mae manteision dirifedi i fod yn actif.
Rydyn ni wedi ymuno â’r sector a sefydliadau cenedlaethol i ddarparu rhywfaint o gyngor ac arweiniad ynghylch sut gall oedolion hŷn ddal ati i fod yn actif gartref – i ddiogelu eu hiechyd meddwl a chorfforol.
- Mae Age Cymru yn argymell na ddylai oedolion hŷn eistedd yn llonydd am fwy nag awr oherwydd gall hyn gael effaith negyddol ar iechyd rhywun ac mae gan y mudiad adnoddau i helpu i arwain unigolion drwy ymarferion gartref, gan gynnwys Hyfforddiant Swyddogaethol Effaith Isel a Tai Chi
- Mae Sporting Memories, prosiect a gefnogir gan Chwaraeon Cymru, yn parhau i helpu pobl hŷn drwy’r pandemig drwy bŵer chwaraeon, ac yn cynnig amrywiaeth o fideos ymarfer ysgafn i helpu gyda chryfder ac ystwythder.
- Edrychwch ar fideos ymarfer ysgafn Chwaraeon Cymru – sy’n cael eu harddangos gan rai o sêr chwaraeon Cymru.