NODYN PWYSIG:
Bydd y rheolau cyfredol ar gyfer chwaraeon ac ymarfer yn dibynnu ar y lefel rhybudd yng Nghymru. I gael y cyfarwyddyd diweddaraf ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru, edrychwch ar ein tudalen ar y cyfarwyddyd diweddaraf ar gymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer yng Nghymru.
Aeth Cymru i fewn i Lefel Rhybudd 4 ar ddydd Sadwrn 19 Rhagfyr. NI CHANIATEIR gweithgareddau chwaraeon awyr agored a dan do wedi'u trefnu.
Mae cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru ar ddychwelyd at chwaraeon yn pwysleisio CRhC (Cyrff Rheoli Cenedlaethol) fel cyrff sy’n gwneud penderfyniadau allweddol.
Dylai CRhC benderfynu pryd a sut gall chwaraeon a gweithgareddau ailddechrau’n ddiogel, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Mae hyn yn golygu y bydd yn ofynnol i bob camp a gweithgaredd trefnus gydymffurfio â chanllawiau’r CRhC perthnasol.
Hefyd bydd rhaid i chi ddilyn y canllawiau hyn wrth wneud cais am grant Paratoi drwy Gronfa Cymru Actif.
DIWEDDARIADAU A CHYFARWYDDYD GAN CRhC
Isod rydyn ni wedi darparu rhai negeseuon allweddol gan rai CRhC, gan gynnwys dolenni at ble gallwch chi gael y diweddariadau a’r cyfarwyddyd diweddaraf.
Sylwer: Os ydych chi’n CRhC ac os nad ydych chi wedi’ch rhestru isod, cofiwch [javascript protected email address] i’n helpu ni i gasglu’r wybodaeth ddiweddaraf am eich camp neu eich gweithgaredd.