6. Un arall yn edrych ar gael cymaint o chwaraeon Elitaidd â phosib i ddechrau.
Gyda ffocws bob amser ar ddiogelwch a chadw at ganllawiau’r llywodraeth. Darllen Mwy.
7. A thrydydd grŵp yn edrych ar chwaraeon dan do...
Gan ddarparu mynediad i gyfleusterau gyda’r safonau hylendid a diogelwch uchaf. Darllen Mwy.
8. Roedd £4 miliwn o gyllid ar gael i helpu i Ddiogelu a Pharatoi chwaraeon i ailddechrau.
Mae cronfa #CymruActif ar gael nawr ar gyfer ceisiadau. Darllen Mwy.
9. Roedd yn golygu ein bod wedi cael cyfarfod ein ffrindiau eto, aelodau eraill y tîm
Mae wedi bod yn wahanol, ond mae llawer ohonom ni wedi rhoi cynnig ar y gamp rydyn ni’n ei hoffi eto. Darllen Mwy.
10. Mae chwaraeon wedi gwneud cynnydd.
Rydyn ni’n cyfarfod yn rheolaidd fel sector, a gyda swyddogion Llywodraeth Cymru. Rydyn ni’n darparu cyngor a chefnogaeth.
Ond rydyn ni’n sylweddoli bod y Feirws mewn cyfnod allweddol.
Rhaid i ni ddiogelu beth sydd gennym ni.
Fe allwn ni Fod yn Actif ... ond hefyd rhaid i ni fod yn ddiogel a chyfrifol.
Ni allwn beryglu colli’r holl gynnydd mae chwaraeon wedi’i wneud.
Rydyn ni wedi dod mor bell. Darllen Mwy.
11. Rydyn ni eisiau dal ati i ddiogelu chwaraeon, paratoi mwy o weithgareddau i ailddechrau a helpu i ailadeiladu cymaint ag y gallwn ni.
Rydyn ni wedi cael £14m gan Lywodraeth Cymru i’n helpu ni i wneud hyn. Darllen Mwy.
12. Gweithio fel tîm yw ein cryfder mawr ni mewn chwaraeon.
Os ydych chi eisiau gwybod mwy am y canllaw
iau diweddaraf, ewch i’n gwefan ni.
#CymruActif #CadwCymrunDdiogel