Mae adnoddau Aml-Sgiliau a Champau’r Ddraig ar gyfer plant 7 i 11 oed yn yr ysgol gynradd.
Mae ethos y dull aml-sgiliau o weithredu’n mynd ati i ddatblygu sgiliau corfforol allweddol plant sy’n berthnasol ac yn drosglwyddadwy mewn amrywiaeth eang o wahanol chwaraeon a gweithgareddau corfforol.
Rydyn ni’n credu os bydd plant yn mwynhau bod yn actif, yn datblygu hyder yn eu gallu, ac yn dysgu sgiliau symud allweddol y bydd hyn yn meithrin gwell iechyd a lles a mwynhad oes o chwaraeon a gweithgarwch corfforol.