Llongyfarchiadau! Rydych chi wedi llwyddo yn eich cais am grant o Gronfa Cymru Actif.
Does dim amheuaeth y bydd y grant yma'n eich helpu chi i ddiogelu eich gweithgarwch chwaraeon lleol yn ystod y pandemig neu’n eich helpu i baratoi ar gyfer ailddechrau yn ddiogel, yn barod i groesawu eich holl aelodau brwd yn ôl.
Mae Cronfa Cymru Actif yn allweddol i glybiau a sefydliadau chwaraeon ledled Cymru ac mae’n bosib diolch i’r Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru. Mae’n bwysig ein bod ni’n tynnu sylw at ba mor ddiolchgar ydyn ni am eu cefnogaeth, er mwyn iddyn nhw ddal ati i’ch cefnogi chi yn y dyfodol.
Isod fe welwch chi nifer o adnoddau a fydd yn eich helpu chi i ddweud diolch, gan gynnwys y canlynol:
- Pecyn adnoddau digidol (sy’n cynnwys syniadau wedi’u hysgrifennu ymlaen llaw ar gyfer negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol a datganiad i’r wasg drafft ar gyfer eich gwefan neu eich cyfryngau lleol)
- Fframiau llun cyfryngau cymdeithasol
- Cardiau post cyfryngau cymdeithasol
- Yr holl logos priodol
Byddem wrth ein bodd yn clywed sut rydych chi wedi defnyddio cyllid Cronfa Cymru Actif, cofiwch ein tagio ni @sportwales yn eich negeseuon!