Grantiau Talent Cymru
Rydyn ni’n cefnogi dynion a merched talentog y byd chwaraeon ledled Cymru drwy grantiau cyllido ac, mewn rhai achosion, amrywiaeth o gefnogaeth gwyddoniaeth a meddygaeth chwaraeon.
Mae Talent Cymru yn grant cyllido gan y Loteri Genedlaethol sy’n helpu athletwyr gyda chostau cystadlu.
Mae gennym ni draddodiad balch yn Chwaraeon Cymru o gefnogi perfformwyr o safon byd – enwau cyfarwydd fel enillydd y Tour de France Geraint Thomas, y Pencampwr Paralympaidd Aled Sion Davies a’r enillydd medal aur yng Ngemau’r Gymanwlad Natalie Powell.
Ac rydyn ni wedi ymrwymo i helpu sêr y dyfodol fel bod Cymru’n parhau i ddisgleirio ar lwyfan y byd. Nid yn unig mae llwyddiannau chwaraeon Cymru’n codi proffil ein cenedl fechan ni ond hefyd maen nhw’n ysbrydoli ac yn cymell plant a phobl ifanc.