Skip to main content

Elw Cymdeithasol Ar Fuddsoddiad Chwaraeon Yng Nghymru - Dull Yr Ymchwil

  1. Hafan
  2. Elw Cymdeithasol Ar Fuddsoddiad Chwaraeon Yng Nghymru - Dull Yr Ymchwil

Mae’r astudiaeth hon yn defnyddio fframwaith Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (ECAF) i fesur effaith gymdeithasol chwaraeon a hamdden actif yng Nghymru yn 2021/22.

Mae ECAF yn fframwaith ar gyfer deall a mesur y gwerth economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol nad yw'n ymwneud â'r farchnad a grëir gan weithgaredd, sefydliad neu ymyriad. Mae'n cael ei ddefnyddio fwyfwy ar draws y sector chwaraeon, yn enwedig gan asiantaethau cyhoeddus ac elusennau, i fesur gwerth cymdeithasol ac i eiriol dros fuddsoddiad.

Mae ECAF yn mesur gwerth y canlyniadau a gynhyrchir drwy gyfranogiad chwaraeon a gwirfoddoli a chostau net, neu fewnbynnau, darparu cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu. Mae'r dadansoddiad ECAF yn mynegi gwerth ariannol canlyniadau mewn perthynas â'r mewnbynnau. Er enghraifft, am bob £1 o fuddsoddiad yng Nghymru, cynhyrchir gwerth o £y. Mae’r astudiaeth yn eithrio gwylio digwyddiadau chwaraeon yn benodol gan fod hyn y tu allan i gylch gorchwyl Chwaraeon Cymru.

Mae'r ECAF yn gwerthuso, sy'n golygu ei fod yn mesur gweithgarwch sydd eisoes wedi digwydd. Casglwyd data ar gyfer y dadansoddiad drwy gymysgedd o ddulliau, gan gynnwys cyfweliadau â rhanddeiliaid, dadansoddiad o astudiaethau ECAF blaenorol ar lefel poblogaeth, a chasglu data eilaidd. Mae'r ffigur isod yn amlinellu chwe cham y dadansoddiad ECAF.

Roedd yr astudiaeth yn canolbwyntio ar werth chwaraeon i oedolion 16 oed a hŷn.

Ffigur 2.1. Camau ECAF

Chwe cham dadansoddiad CECF

Rhanddeiliaid

Ar ôl sefydlu cwmpas yr astudiaeth, cam cyntaf ecaf yw nodi rhanddeiliaid. Mae Social Value International yn diffinio rhanddeiliaid fel ‘pobl neu sefydliadau sy’n profi newid o ganlyniad i’ch gweithgarwch chi neu’r rhai sy’n effeithio ar y gweithgarwch sy’n cael ei ddadansoddi. Gallant fod yn unigolion, yn grwpiau o unigolion ac yn sefydliadau’. Mae Tabl 3.1 yn nodi'r prif grwpiau o randdeiliaid ar gyfer chwaraeon yng Nghymru.

Tabl 3.1: Rhanddeiliaid ar gyfer chwaraeon yng Nghymru

Sector cyhoeddusSector preifat Trydydd sector Aelwydydd 

Chwaraeon Cymru 

Llywodraeth Cymru

Awdurdodau Lleol 

UK Sport

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Ysgolion

Sefydliadau Addysg Uwch

Darparwyr ffitrwydd ac ymarfer masnachol

Cyflogwyr gyda chyfleusterau chwaraeon, ymarfer a gweithgarwch corfforol

 

 

 

 

 

 

Clybiau chwaraeon gwirfoddol

Ymddiriedolaethau Chwaraeon a Hamdden

Cyrff Rheoli Cenedlaethol

Elusennau sy'n darparu gweithgareddau chwaraeon

Chwaraeon ar gyfer sefydliadau datblygu

 

 

Cyfranogwyr chwaraeon 

Gwirfoddolwyr chwaraeon 

 

 

 

 

 

 

 

 

Roedd rhanddeiliaid yn ymwneud â'r ECAF mewn sawl ffordd. Fe wnaethant helpu i ddiffinio cwmpas yr astudiaeth a nodi'r mewnbynnau a'r canlyniadau i'w mesur. Bu'r wybodaeth a ddarparwyd ganddynt o gymorth i ddatblygu'r Map Effaith, a gyflwynir yn y bennod nesaf. Fe wnaethant hefyd gyfrannu at wirio'r broses ymchwil a'r canfyddiadau.

Cyfweliadau rhanddeiliaid

Gan ymgynghori â Chwaraeon Cymru, nododd y tîm ymchwil restr o randdeiliaid allweddol i ymgynghori â hwy. Cafodd y sefydliadau canlynol eu cyfweld gan y tîm ymchwil:

  1. Chwaraeon Cymru
  2. Iechyd Cyhoeddus Cymru
  3. Cymdeithas Bêl-droed Cymru
  4. Llywodraeth Cymru (Adran Polisi Chwaraeon)
  5. StreetGames
  6. Y Bartneriaeth Awyr Agored

Roedd pob cyfweliad yn gofyn cwestiynau am y canfyddiadau o effeithiau cymryd rhan a gwirfoddoli mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, gan gynnwys newidiadau cadarnhaol a newidiadau negyddol neu anfwriadol. Gofynnwyd hefyd i'r rhai a gyfwelwyd raddio pwysigrwydd y canlyniadau hyn i'r ECAF.

Iechyd corfforol a meddyliol

Y fantais fawr a nodwyd yn y cyfweliadau oedd canlyniadau iechyd cadarnhaol cyfranogiad chwaraeon a gweithgarlwch corfforol, gan gynnwys atal salwch a thrin salwch, yn arbennig trin, rheoli neu ohirio symptomau cyflyrau iechyd penodol. Roedd y cyflyrau iechyd penodol a grybwyllwyd yn cynnwys diabetes, gordewdra a chlefydau cronig, ac roedd y cyflyrau iechyd meddwl yn cynnwys straen, gorbryder ac iselder. Soniwyd hefyd am oedi gyda symptomau heneiddio a chynnal iechyd da mewn pobl hŷn. Roedd iechyd corfforol a meddyliol yn cael eu hystyried yn gyffredinol fel canlyniadau chwaraeon a gweithgarwch corfforol a oedd wedi'u cofnodi’n dda a bod tystiolaeth dda ohonynt.

Cydlyniant cymdeithasol

Yn ail, nodwyd manteision cymdeithasol chwaraeon a gweithgarwch corfforol fel canlyniad pwysig. Roedd hyn yn cynnwys drwy gyfranogiad a gwirfoddoli yn galluogi pobl i gwrdd ag eraill, teimlo ymdeimlad o berthyn gyda grŵp, a datblygu teimladau o gymuned. Amlygodd y cyfweliadau y gallai’r teimladau hyn o berthyn a chydlyniant gael eu datblygu drwy fod yn rhan o dîm, yn ogystal â thrwy gymryd rhan gyda ffrindiau a / neu deulu, gan gryfhau cysylltiadau teuluol os ydynt yn cymryd rhan gyda’i gilydd. Roedd datblygu teimladau o gymuned fel rhan o glwb neu dîm lleol hefyd yn datblygu teimladau o ymddiriedaeth a balchder yn y gymuned leol ac wedi effeithio ar deimladau o gyfrifoldeb tuag at yr ardal leol – gyda photensial i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol fel lleihau sbwriel a graffiti yn yr ardal leol.

Lles

Amlygodd y cyfweliadau hefyd ganlyniadau lles goddrychol fel budd pwysig o ran chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Roedd hyn yn gysylltiedig â’r canlyniadau cymdeithasol, gan fod datblygu teimladau o berthyn a chymuned yn cyfrannu at deimladau cadarnhaol amdanoch chi’ch hun, teimlo’n hapusach, datblygu hyder, gwell sgiliau cymdeithasol, hunan-barch, hunaneffeithiolrwydd, hunan-gred, teimlo’n werthfawr, a theimlo eich bod yn cael gofal (er enghraifft gan arweinwyr chwaraeon, hyfforddwyr, cyd-chwaraewyr).

Canlyniadau eraill

Amlygwyd canlyniadau pellach hefyd, gan gynnwys sgiliau gwell fel sgiliau arwain a chyfathrebu, y potensial ar gyfer cyrhaeddiad addysgol uwch a gwell cynhyrchiant yn y gwaith neu mewn swyddogaethau gwirfoddoli, ac o ganlyniad gallai hyn arwain at effeithiau ariannol cadarnhaol ar weithleoedd. Hefyd, gostyngiad mewn troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy gael pobl ifanc oddi ar y strydoedd a rhoi pwrpas iddynt. Fodd bynnag, disgrifiwyd y canlyniadau hyn fel rhai anecdotaidd ac felly gallant fod yn anodd eu priodoli i chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn unig.

Canlyniadau negyddol ac anfwriadol

Roedd un cyfwelai na ddisgrifiodd unrhyw ganlyniadau negyddol o ganlyniad i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Disgrifiodd eraill, fodd bynnag, rai canlyniadau negyddol posibl. Yr un a grybwyllwyd amlaf o blith y rhain oedd y potensial ar gyfer rhai effeithiau negyddol ar iechyd meddwl neu les unigolion, oherwydd pwysau i berfformio neu lwyddo, gan achosi gorbryder a straen, ac ofn methiant a realiti methiant yn effeithio’n negyddol ar hyder a hunan-barch. effeithiolrwydd. Soniwyd hefyd am wynebu rhywiaeth a hiliaeth mewn chwaraeon fel ffactorau negyddol a allai effeithio ar deimladau o les. Gallai’r pwysau ar unigolion a’u teuluoedd am arian i fforddio’r gost o gymryd rhan mewn chwaraeon, yn ogystal â’r pwysau ar amser, effeithio ar les hefyd. Disgrifiwyd ymddygiad gwrthgymdeithasol hefyd fel canlyniad negyddol posibl, a chyfeiriwyd at hyn yn benodol mewn perthynas â hwliganiaeth pêl-droed. Yn olaf, tynnwyd sylw at y risg o anaf.

Tystiolaeth arall yn ymwneud â chanlyniadau cymdeithasol chwaraeon yng Nghymru

Yn ystod y cyfweliadau, gofynnwyd i’r rhanddeiliaid ddarparu enghreifftiau o unrhyw dystiolaeth berthnasol yn dangos gwerth chwaraeon a gweithgarwch corfforol sy’n benodol i Gymru. Roedd y deunydd a ddarparwyd yn cynnwys gwerthusiad ansoddol o’r rhaglen ‘Step into sport’(Brier et al., 2023), ymyriad seiliedig ar chwaraeon ar gyfer pobl ifanc ‘mewn perygl’, a ganfu fod effeithiau cadarnhaol ar gyfranogwyr, a oedd yn elwa’n seicolegol (er enghraifft, mwy cadarnhaol: hunan-gysyniad; hunan-barch, rheoli dicter; iechyd meddwl a lles); yn gorfforol (fel dysgu sgiliau corfforol newydd; ymddygiad cwsg a maeth gwell; mwy o ffitrwydd corfforol); ac yn gymdeithasol (er enghraifft, perthnasoedd a chysylltiadau cymdeithasol newydd; datblygu modelau rôl); ac yn olaf roedd y cyfranogwyr yn fwy uchelgeisiol ynghylch rhagolygon ar gyfer y dyfodol o ran parhad mewn chwaraeon a chynyddu cymhelliant ar gyfer cyfleoedd yn y gweithle. Yn yr un modd, canfu gwerthusiad o ymyriad yn seiliedig ar rygbi (Brier a Mellick et al., 2023) yr un canlyniadau seicolegol, corfforol, cymdeithasol a dyheadol ar gyfer pobl ifanc a datgelodd dadansoddiad meintiol ymhellach ar draws tri mesur seicometrig (WEMWBS, PHQ-9, GAD-7) bod cyfranogwyr yn profi cynnydd mewn lles y meddwl, gostyngiad mewn symptomau iselder a gostyngiad mewn symptomau gorbryder.

Amlygwyd canfyddiadau o fanteision cymryd rhan mewn pêl-droed gan ymchwil a gynhaliwyd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru (The Nielson Company, 2022) a ofynnodd i rieni beth oedd manteision pêl-droed i’w plentyn. Dangosodd y canfyddiadau fod rhieni’n credu bod pêl-droed yn gwella iechyd a lles cyffredinol (71%), yn darparu sgiliau cymdeithasol (64%), ac yn gwella sgiliau meddwl (hunanreolaeth, canolbwyntio, disgyblaeth, gwneud penderfyniadau ac arweinyddiaeth). Dylid nodi bod hyn yn seiliedig yn unig ar ganfyddiadau 138 o rieni plant rhwng 6 ac 17 oed sy'n chwarae pêl-droed.

Mae’r Strategaeth y Bartneriaeth Awyr Agored (2021-2031) yn cyflwyno gweledigaeth o ‘wella bywydau pobl drwy weithgareddau awyr agored’. Mae hyn yn cynnwys gwella iechyd a lles corfforol a meddyliol pobl, a’r elw economaidd (gan gynnwys cyflogaeth) drwy weithgarwch awyr agored fel cyfranogiad ar lawr gwlad mewn gweithgareddau fel cerdded, beicio a chwaraeon antur. Fel sefydliad, mae gan y Bartneriaeth Awyr Agored feysydd gwaith allweddol sy’n arwain i gyd at eu gweledigaeth gyffredinol. Mae ymchwil i werthuso’r cynlluniau gwaith hyn yn cynnwys amcangyfrif o ECAF y rhaglen Agor Drysau i’r Awyr Agored (ODO) yng Ngogledd Cymru (Makanjuola et al., 2023). Mae'r ODO yn ymyriad cerdded a dringo 12 wythnos sydd wedi'i anelu at unigolion segur sy'n profi lles meddyliol isel. Cynhaliwyd ECAF y rhaglen ODO yng Ngogledd Cymru yn 2022 gan yr Hwb Gwerth Cymdeithasol yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) ym Mhrifysgol Bangor. Dangosodd y canlyniadau, yn astudiaeth Gogledd Cymru, am bob £1 a fuddsoddwyd mewn rhaglenni ODO, y cynhyrchwyd £4.90 i £5.36 o werth cymdeithasol ar gyfer rhanddeiliaid. Yn ogystal, dynododd y cyfweliadau well lles meddyliol, mwy o weithgarwch corfforol, mwy o ymddiriedaeth gymdeithasol a gwell iechyd yn gyffredinol.

Edrychodd gwerthusiad dilynol (Gwerth Cymdeithasol Cymru, 2023) ar y gwerth cymdeithasol sy’n cael ei greu drwy ddatblygu’r rhaglenni amrywiol yng Nghanolbarth a De Cymru, gan adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd o ymyrraeth yr ODO yng Ngogledd Cymru a defnyddio fframwaith presgripsiynau cymdeithasol. Archwiliodd yr astudiaeth hon yr effeithiau ar gyfranogwyr a gwirfoddolwyr a chanfuwyd bod gwerth cymdeithasol yn cael ei greu drwy weithgareddau’r prosiect, gyda chanlyniad ECAF bod £7.12 o werth yn cael ei greu am bob £1 a fuddsoddir. Roedd gwirfoddolwyr yn teimlo'n fwy hyderus yn arwain a chefnogi grwpiau ac roedd cael mynediad i hyfforddiant yn helpu llawer i deimlo'n fwy cadarnhaol tuag at yrfa yn y diwydiant. Drwy'r prosiectau amrywiol, roedd unigolion wedi profi newidiadau cadarnhaol yn eu lles meddyliol a chorfforol. Ar gyfer y prosiectau presgripsiynau cymdeithasol, roedd llawer yn teimlo’n llai ynysig o fewn eu cymunedau ac yn teimlo’n fwy cadarnhaol am reoli eu hiechyd a’u lles eu hunain. 

Y prif adroddiad sy’n mesur gwerth chwaraeon yng Nghymru oedd yr astudiaeth ECAF flaenorol aeth ati i fesur gwerth y sector chwaraeon yn 2016/17. Aeth ati i fesur sawl maes canlyniad gan gynnwys iechyd, lles goddrychol, cyfalaf cymdeithasol, troseddu, addysg a llafur gwirfoddolwyr. Datgelodd fod £3.43bn o werth cymdeithasol wedi’i gynhyrchu o £1.19bn o fewnbynnau, gan roi gwerth ECAF o 2.88. Mae hyn yn golygu, am bob £1 a fuddsoddir mewn chwaraeon yng Nghymru (ariannol ac fel arall), bod gwerth £2.88 o effaith gymdeithasol wedi’i greu ar gyfer unigolion a chymdeithas yn 2016/17. Cynhyrchwyd y swm mwyaf o werth cymdeithasol (61%) drwy les goddrychol (£2.08bn). Crëwyd gwerth cymdeithasol sylweddol hefyd gan gyfalaf cymdeithasol (£651m; 19%), iechyd (£295m; 8.6%) a llafur gwirfoddol (£312m; 9%) (Chwaraeon Cymru, 2018).