Cyfleuster hyfforddi gymnasteg a adeiladwyd i bwrpas ar gyfer Gymnasteg Cymru
Canolfan focsio wedi’i hawyru gyda chylch Olympaidd maint llawn a chylch ymarfer ar gyfer sêr elitaidd Cymru a bocswyr sy’n datblygu
Dojo wedi’i hawyru a adeiladwyd i bwrpas; cartref Cymdeithasau Jiwdo Cymru a Reslo Cymru. Gyda chyfanswm arwynebedd mat o 27m x 14m, mae ganddi ddau fat cystadlu ar gyfer jiwdo, mat reslo a llawr sbring llawn. Hefyd mae wal ddringo, rhaffau ac ardal i wylwyr yma
Safle saethu 10 metr dan do, chwe lôn, a ddefnyddir fel lleoliad hyfforddi gan Ffederasiwn Saethu Targedau Cymru.
Tair neuadd chwaraeon sy’n gallu croesawu amrywiaeth eang o chwaraeon
Prif neuadd chwaraeon eithriadol hyblyg gyda llawr sbring llawn sy’n gallu cynnal cystadlaethau rhyngwladol yn rheolaidd, a gwersylloedd hyfforddi, addysg hyfforddwyr, cymwysterau a hyfforddiant i athletwyr unigol. Mae lle ynddi i ddeg cwrt badminton ac mae ganddi seddau y gellir eu tynnu allan ar gyfer 900 o wylwyr.
Pedwar cwrt sboncen, gyda dau’n gyrtiau arddangos â chefn gwydr sy’n caniatáu mynediad i gadeiriau olwyn ac sydd â seddau ar gyfer 186 o wylwyr.
Campfa ffitrwydd cardiofasgiwlar a champfa pwysau rhydd.
CYFLEUSTERAU AWYR AGORED
Canolfan Hoci Genedlaethol gyda chae artiffisial gyda llifoleuadau a 275 o seddau i wylwyr, sydd wedi’i defnyddio’n flaenorol gan Hoci Prydain Fawr ac ar gyfer digwyddiadau rhyngwladol. Cartref Hoci Cymru ac yn cael ei defnyddio ar gyfer pêl droed a lacrosse hefyd
Cyfleuster saethu awyr agored 50 metr a adeiladwyd i bwrpas gyda chwe lôn, a ddefnyddir fel lleoliad hyfforddi gan Ffederasiwn Saethu Targedau Cymru
Cae pêl droed a rygbi glaswellt gyda dygowt cysgodol i’r staff ac ystafell ffisiotherapi, a ddefnyddir gan Ymddiriedolaeth CBDC ac URC
Ardal chwarae aml-chwaraeon, pob tywydd sy’n addas ar gyfer pêl droed pump bob ochr, pêl rwyd a thennis.