Skip to main content

Tennis Awyr Agored

Chwarae Senglau - dim cyfyngiadau

Chwarae Dyblau - dim cyfyngiadau

 

Defnydd o’r Cyrtiau

  • Darperir 15 munud rhwng archebion er mwyn sicrhau cyfnod newid drosodd i gwsmeriaid - cofiwch gyrraedd ar amser a gorffen yn brydlon pan ddaw’r archeb i ben.
  • Uchafswm o 4 chwaraewr ar bob cwrt. Edrychwch ar gyfarwyddyd cyfredol Tennis Cymru am chwaraewyr o wahanol gartrefi.
  • Ni chaniateir gwylwyr ar y cyrtiau – dim ond chwaraewyr.
  • Ni fydd unrhyw doiledau ar gael ar gyfer archebion hyd at 3pm Llun – Gwener. Bydd toiledau ar gael y tu mewn i’r Ganolfan ar gyfer archebion a wneir ar ôl 3pm Llun – Gwener ac ar benwythnosau.
  • Nid oes unrhyw gyfleusterau newid ar gael – cofiwch gyrraedd yn barod i chwarae.

Gorchuddion Wyneb

  • Rhaid gwisgo gorchuddion wyneb bob amser yn y Ganolfan ar wahân i pan rydych chi’n cymryd rhan mewn chwaraeon neu’n ymarfer.

Cadw Pellter Cymdeithasol 

  • Rhaid cadw 2m o bellter cymdeithasol ar y cyrtiau ac yn y maes parcio.

Iechyd, Diogelwch a Hylendid 

  • Ni ddylai unrhyw un adael ei gartref i gymryd rhan mewn unrhyw ymarfer os oes ganddo ef, neu unrhyw un mae’n byw gydag ef, symptomau COVID -19, sy’n cael eu hadnabod ar hyn o bryd fel: - Tymheredd uchel – Peswch newydd, parhaus – Colli, neu newid, i’w synnwyr arogli neu flasu.
  • Dewch â diheintydd dwylo personol gyda chi i’w ddefnyddio cyn, yn ystod ac ar ôl eich amser ar y cwrt.

Hyfforddiant Tennis

  • Rhaid i hyfforddwyr tennis gadw at gyfarwyddyd Tennis Cymru ar gyfer gweithgarwch hyfforddi bob amser.

Cymorth Cyntaf ac Argyfyngau

  • Os oes arnoch chi angen cymorth cyntaf neu gymorth staff, dewch i ddrysau ffrynt y Ganolfan neu ein ffonio ni ar 0300 300 3123.