Beth Sy’n Cael Ei Ganiatáu
- Hyfforddiant ar eich pen eich hun.
- Mae hyfforddiant gyda hyfforddwr yn cael ei ganiatáu ond rhaid parchu rheolau cadw pellter cymdeithasol.
- Hyfforddiant gydag aelod o gartref gwahanol ond rhaid parchu rheolau cadw pellter cymdeithasol.
- Gemau gydag aelod o’r un cartref.
Beth Sydd DDIM Yn Cael Ei Ganiatáu
- Mae gemau wedi’u gwahardd o hyd gydag aelodau hebfod o’ch cartref.
- Dim mwy na dau chwaraewr ar y tro ar y cwrt.
Am ragor o wybodaeth a syniadau ar gyfer hyfforddiant sboncen sy’n cadw pellter cymdeithasol ewch i: www.squash.wales/covid-19/
Defnydd o Gyrtiau
- Mae archeb am un sesiwn yn 25 munud a sesiwn dwbl yn 50 munud. Gan gadw at gyfarwyddyd Sboncen Cymru, byddwn yn cadw isafswm o 15 munud rhwng archebion.
- Uchafswm o 2 chwaraewr ar bob cwrt. Edrychwch ar gyfarwyddyd cyfredol Sboncen Cymru ynghylch chwaraewyr o wahanol gartrefi.
- Ni chaniateir unrhyw wylwyr ar y cyrtiau/yn y mannau eistedd – chwaraewyr yn unig.
- Ni fydd unrhyw gyfleusterau newid ar gael. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd yn barod i chwarae.
Gorchuddion Wyneb
- Rhaid gwisgo gorchuddion wyneb bob amser yn y Ganolfan ar wahân i pan rydych chi’n cymryd rhan mewn chwaraeon neu’n ymarfer.
Cadw Pellter Cymdeithasol
- Cofiwch gadw 2m o bellter cymdeithasol (os yw’n bosib) ym mhob rhan o’r ganolfan.
- Cadwch at yr arwyddion ar gyfer mynedfeydd ac allanfeydd yn y Dderbynfa.
Iechyd, Diogelwch a Hylendid
- Ni ddylai unrhyw un adael ei gartref i chwarae Sboncen os oes ganddo ef, neu rywun mae’n byw gydag ef, symptomau COVID -19, sy’n cael eu cydnabod ar hyn o bryd fel: - Tymheredd uchel – Peswch newydd, parhaus – Colli, neu newid i, synnwyr arogli neu flasu.
- Mae diheintydd dwylo ar gael ym mhob rhan o’r ganolfan. Cofiwch ei ddefnyddio cyn, yn ystod ac ar ôl eich ymweliad â’r ganolfan.
- Mae chwistrell glanhau a thyweli papur yn cael eu darparu. Cofiwch sychu pob arwyneb ar ôl chwarae (e.e. handlenni drysau, offer personol).
Offer
- Rhaid i chwaraewyr ddod â’u hoffer eu hunain (raced, pêl, potel ddŵr wedi’i llenwi). Ni fydd unrhyw offer Sboncen ar gael i’w logi.
- Rhaid cadw unrhyw fagiau’n ofalus ym mlaen y cwrt rydych chi’n chwarae arno.
Hyfforddiant
- Rhaid i hyfforddwyr sboncen ddilyn cyfarwyddyd Sboncen Cymru ar gyfer gweithgarwch hyfforddi bob amser.
Cymorth Cyntaf ac Argyfyngau
- Os oes arnoch chi angen cymorth cyntaf neu gymorth staff, plîs ewch i’r Dderbynfa neu ein ffonio ni ar 0300 300 3123.