Bydd y grant Cynnydd yn helpu i fynd â chwaraeon a gweithgarwch i'r cam nesaf ac yn cefnogi gyda chynaliadwyedd tymor hir.
Hefyd mae’r grant Cynnydd yn gallu cyllido eitemau sy’n hanfodol ar gyfer dychwelyd i chwarae.
Y rhain yw helpu clwb, sefydliad neu weithgaredd i wneud y canlynol:
- Trechu anghydraddoldeb
- Creu atebion tymor hir i fod yn fwy cynaliadwy
- Gweithredu’n arloesol
Bydd angen i ymgeiswyr ddangos sut bydd y cyllid maent yn gofyn amdano yn datblygu eu chwaraeon neu eu camp ac yn effeithio ar o leiaf un o'r egwyddorion hyn.
Beth mae’r egwyddorion hyn yn ei olygu?
Mynd i'r afael ag anghydraddoldeb
Mae sawl demograffeg yn cael eu tangynrychioli mewn chwaraeon ar hyn o bryd. Byddwn yn cefnogi ceisiadau sy'n effeithio ar gyfraddau cymryd rhan a chynrychiolaeth ar gyfer:
- Merched a genethod
- Pobl ag anabledd
- Pobl o grŵp neu gefndir Du, Asiaidd neu Leiafrif Ethnig (DALlE)
- Pobl Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol
- Pobl drawsryweddol
- Pobl sy'n byw mewn amddifadedd economaidd cymdeithasol / anfantais
- Y rhai sy'n defnyddio'r Gymraeg
Cynaliadwyedd tymor hir
Rydym am sicrhau bod chwaraeon cymunedol yn cael eu sefydlu i lwyddo yn y dyfodol. Bydd ceisiadau sy'n cefnogi gwelliannau parhaol yn cael blaenoriaeth.
Arloesi
Bydd ceisiadau'n cael eu cefnogi os gallant ddangos dull newydd o gyflwyno eu camp. Gall hyn gynnwys arloesi yn y ffordd y cânt eu cyflwyno, wrth ymateb i heriau tymor canolig a hir Covid-19, neu'r math o weithgareddau a ddarperir.
DYFARNU CYLLID
Isafswm y dyfarniad yw £300 a'r uchafswm yw £50,000. Mae'r cyllid yn cael ei ddyfarnu ar raddfa symudol.
- Grant o 100% hyd at £10,000
- Grant o 90% ar gyfer dyfarniadau rhwng £10,001 a £25,000
- Grant o 80% ar gyfer dyfarniadau rhwng £25,001 a £50,000
*Bydd angen cyflwyno isafswm o dri dyfyn-bris ar gyfer unrhyw eitem unigol sy'n costio mwy na £250
Rydym yn disgwyl i ymgeiswyr ddechrau eu prosiect o fewn mis i dderbyn cyllid.
BETH ALLWN NI EI GYLLIDO?
Bydd angen i ymgeiswyr ddangos bod eu cais yn cyd-fynd ag un o’r tair egwyddor sef ‘rhoi sylw i anghydraddoldeb, ‘cynaliadwyedd tymor hir’ neu ‘arloesi’.
Mae'n bwysig nad yw ymgeiswyr yn canolbwyntio ar yr hyn y gallant gael cyllid ar ei gyfer, ond yn hytrach ar beth yw eu hanghenion yn y pen draw.
Bydd y panel sy'n gwneud penderfyniad am gyllid yn chwilio am wybodaeth am amgylchiadau unigryw y clwb, y sefydliad neu'r gweithgaredd a sut maent yn berthnasol i un neu fwy o feini prawf allweddol y gronfa. Dylech ddarparu cymaint o fanylion â phosib.
Fel CANLLAW YN UNIG, mae rhai ceisiadau'n debygol o ganolbwyntio ar y canlynol:
- Gwneud gwelliannau neu addasiadau i gyfleusterau fel bod mwy o gyfleoedd i bobl chwarae neu hyfforddi.
- Cyfleusterau newydd i alluogi cynnal mwy o chwaraeon neu weithgarwch.
- Defnyddio technoleg i ymgysylltu â mwy o gyfranogwyr, fel darparu sesiynau ar-lein, neu ddefnyddio adnoddau ar-lein i helpu gyda chreu incwm.
- Addysgu hyfforddwyr ar Lefel 1 lle mae angen wedi’i brofi.
- Gwella sgiliau gwirfoddolwyr lle mae gan y clwb fylchau mewn sgiliau neu brofiad.
- Offer sy'n galluogi mwy o bobl i gymryd rhan.
- Ffyrdd gwahanol ac arloesol o gyflwyno'r gweithgaredd.
- Dulliau sy'n targedu grwpiau penodol a dangynrychiolir.
Hefyd gellir defnyddio’r grant Cynnydd ar gyfer:
- Helpu eich clwb neu eich sefydliad i ailagor cyfleusterau fel bod pobl yn gallu cymryd rhan. Gallai hyn gynnwys rhoi mesurau yn eu lle i gymryd rhan dan do neu yn yr awyr agored a chadw at reolau cadw pellter cymdeithasol.
- Adnoddau sy’n helpu eich clwb neu eich sefydliad i fodloni cyfarwyddyd y Llywodraeth ac iechyd cyhoeddus ar gadw pellter cymdeithasol.
- Rhoi hyder i bobl i gymryd rhan ac annog aelodau i ddychwelyd i’ch clwb.
- Annog mwy o bobl i gymryd rhan yn y clwb.
- Datrysiadau arloesol i gael pobl i fod yn actif, fel y defnydd o dechnoleg.
- Clybiau, timau neu sefydliadau newydd sydd eisiau sefydlu, ond angen help i ddilyn canllawiau’r Coronafeirws.
BETH NA ALLWN EI GYLLIDO
Mae nifer o bethau sy'n anghymwys ar gyfer y cyllid hwn:
- Dylai ceisiadau sydd angen y caniatâd cyfreithiol angenrheidiol ddod gan y rhydd-ddeiliad ei hun, neu'r lesddeiliad sydd â'r caniatâd angenrheidiol;
- Ni fydd unrhyw gyllid ôl-weithredol yn cael ei ystyried;
- Ni fydd unrhyw eitemau personol yn cael eu hystyried, e.e. cit chwarae, poteli dŵr, esgidiau, offer gwarchodol.
- Ni fydd unrhyw ddyfeisiau electronig personol yn cael eu hystyried. Dim ond os gellir dangos yn glir y byddent yn rhan o ateb arloesol ar gyfer y clwb neu’r weithgaredd fydd cefnogaeth ar gyfer ceisiadau sy’n cynnwys dyfeisiau electronig yn cael eu hystyried.
- Ni fydd unrhyw geisiadau sy'n ymwneud â meini prawf y Corff Rheoli Cenedlaethol yn cael eu hystyried, e.e. stand, dygowt, rhwystrau.
- Ni fydd unrhyw swyddi cyflogedig yn cael eu hystyried;
- Ni fydd unrhyw ffioedd aelodaeth yn cael eu hystyried;
- Ni fydd unrhyw geisiadau gan glybiau sy'n gysylltiedig â sefydliadau addysgol yn cael eu hystyried. Er enghraifft, timau prifysgol neu uwchraddio cyfleusterau addysgol;
- Dim ond ffioedd proffesiynol sy'n ymwneud â rhwymedigaethau statudol (ceisiadau cynllunio, rheoliadau adeiladu, ffioedd cyfreithiol) fydd yn cael eu hystyried;
- Mae agweddau penodol y bydd Chwaraeon Cymru yn eu cyllido o dan yr elfennau 'Diogelu' a 'Pharatoi' na fyddent yn berthnasol o dan 'Cynnydd'. Dylech ddarllen y cyfarwyddyd ar draws y tair elfen i benderfynu ar yr elfen fwyaf priodol ar gyfer eich cais.
- Ni fyddwn yn cefnogi ceisiadau am elfennau a gefnogwyd yn flaenorol drwy 'Diogelu' a/neu 'Paratoi'.
PWY FYDDWN YN EU CYLLIDO
Mae Cronfa Cymru Actif ar gael i glybiau a sefydliadau chwaraeon nid-er-elw sy’n darparu chwaraeon a gweithgarwch corfforol cymunedol.
Mae’r sefydliadau hyn yn cynnwys y canlynol:
- Clybiau chwaraeon nid-er-elw lleol. os oes arnoch chi angen esboniad am y diffiniad o ‘nid-er-elw’ a statws eich clwb, eich sefydliad neu eich grŵp, cysylltwch â’ch corff rheoli neu â Chwaraeon Cymru ar [javascript protected email address].
- Sefydliadau’r sector gwirfoddol a chymunedol sy’n darparu neu’n galluogi chwaraeon a/neu weithgarwch corfforol, gan gynnwys sefydliadau nad ydynt yn sefydliadau chwaraeon yn unig neu’n bennaf ac sydd â rôl bwysig i’w chwarae mewn cadw pobl yn actif, sydd angen cefnogaeth efallai er mwyn i rannau eraill eu sefydliad barhau ar agor.
- Ymddiriedolaethau elusennol bychain nad ydynt yn gymwys am gymorth ariannol o unrhyw ffynhonnell arall.
- Cyrff rhanbarthol sy’n wynebu risg o galedi ariannol.
PWY NA ALLWN EU CYLLIDO
Mae’r gronfa hon wedi’i chreu i helpu darparwyr chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar lawr gwlad. Mae hyn yn golygu nad ydym yn gallu helpu’r sefydliadau canlynol gyda’r gronfa yma:
- Awdurdodau lleol, gan gynnwys cynghorau tref a phlwyf
- Ysgolion, colegau a phrifysgolion
- Darparwyr chwaraeon a gweithgarwch corfforol masnachol, e.e. campfeydd preifat
- Gweithredwyr hamdden
- Unigolion sydd naill ai’n gyflogedig neu’n hunangyflogedig yn y sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
- Ni fydd Cronfa Cymru Actif yn cefnogi sefydliadau/clybiau cysylltiedig â sefydliadau addysgol. Er enghraifft, timau prifysgol neu uwchraddio cyfleusterau addysg.
SUT I GYSYLLTU Â NI
Cofiwch nad ydym yn gallu ateb ymholiadau’r Grant Cynnydd dros y ffôn, oherwydd capasiti a gweithio o bell.
Defnyddiwch y Ganolfan Cymorth neu anfon eich ymholiad ar e-bost [javascript protected email address]
Bydd y ceisiadau'n cael eu prosesu'n barhaus, gyda'r llythyrau cynnig terfynol at ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21 yn cael eu cyhoeddi erbyn 28ain Chwefror. Bydd taliad olaf y flwyddyn ariannol yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 15fed Mawrth, felly er mwyn sicrhau eich bod yn cael eich cynnwys yn y taliad hwn, y dyddiad cau ar gyfer derbyn llythyrau cynnig wedi'u llofnodi yn Chwaraeon Cymru yw 12fed Mawrth. Fodd bynnag, nid yw'n fwriad cau'r gronfa. Bydd posib dal ati i gyflwyno ceisiadau a'u hasesu drwy gydol mis Mawrth, ac yn y flwyddyn ariannol newydd. Fodd bynnag, oherwydd prosesau diwedd blwyddyn, ni chyhoeddir llythyrau cynnig yn ystod mis Mawrth ar gyfer ceisiadau cynnydd, yn hytrach bydd y llythyrau cynnig at ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu cyhoeddi o 1af Ebrill ymlaen. Er y byddwn yn ceisio dal ati i brosesu ceisiadau cyn gynted â phosibl, bydd adegau pan fydd oedi oherwydd cymhlethdod y cais neu nifer y ceisiadau sy'n cael eu prosesu.