Skip to main content

Trosglwyddo Asedau Cymunedol

Gyda gwasgu ar gyllidebau Awdurdodau Lleol, rydyn ni’n clywed llawer am Drosglwyddo Asedau Cymunedol. Dyma ganllaw ar beth mae Trosglwyddo Ased Cymunedol yn ei olygu, beth yw’r manteision, y risgiau, pwy all wneud cais, a’r broses – a mwy! 

Beth yw Trosglwyddo Ased Cymunedol?

Ystyr Trosglwyddo Ased Cymunedol (TAC) yw trosglwyddo tir neu adeiladau o gyfrifoldeb sefydliadau fel awdurdodau lleol i grwpiau cymunedol fel clybiau chwaraeon, ymddiriedolaethau, llyfrgelloedd ac ati

Mae’n benderfyniad mawr i unrhyw grŵp cymunedol ac ni ddylid ei wneud yn ysgafn. Ond rydyn ni yma i’ch arwain chi drwy’r broses. Cewch wybod beth mae’n ei olygu, beth mae’r broses yn ei gynnwys, y manteision a’r risgiau!

Gall sefydliad cymunedol neu gorff cyhoeddus sefydlu TAC. Efallai bod sefydliad cymunedol wedi gweld cyfle i ddatblygu ased sy’n cael ei danddefnyddio ac efallai y bydd yn gofyn am drosglwyddo’r ased o ofal yr awdurdod lleol. Neu gall Awdurdod Lleol roi cychwyn ar bethau drwy gynllun Trosglwyddo Asedau Cymunedol. Efallai ei fod yn gweld TAC fel ffordd dda o sicrhau’r defnydd gorau posib o gyfleuster neu dir, neu fel cyfle buddsoddi. Mewn sefyllfaoedd o’r fath, gall weithredu polisi i drosglwyddo asedau i grwpiau cymunedol. 

Pwy all wneud cais?

  • Cynghorau Cymuned a Thref – llawr gwlad llywodraethu lleol yng Nghymru; atebol i’r bobl leol
  • Y Trydydd Sector – yn cynnwys sefydliadau annibynnol, anllywodraethol sy’n cael eu cymell gan amcanion cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol. Mae’r rhain yn cynnwys elusennau, sefydliadau gwirfoddol / cymunedol a mentrau cymdeithasol
  • Grwpiau Cymunedol – sy’n cael eu rhedeg gan y gymuned leol ac yn diwallu ei hanghenion. Byddai’r rhan fwyaf o glybiau chwaraeon yn perthyn i’r categori hwn.

Am fwy o wybodaeth am bwy all wneud cais am TAC cliciwch yma am Becyn Adnoddau TAC Llywodraeth Cymru.   

Mathau o ddaliadaeth

Mae sawl math gwahanol o gytundebau cyfreithiol. Yr enw ar hyn yw ‘daliadaeth’ a’r ystyr yw’r amodau perthnasol i ddal neu breswylio ar dir neu mewn adeiladau.                    

Bydd y math mwyaf addas o gytundeb neu ddaliadaeth yn dibynnu ar yr amgylchiadau a’r ffactorau, fel polisïau’r cyngor, cyfamodau cyfreithiol a’r ased(au) i’w drosglwyddo.  

Dylech ymgynghori â chynghorydd cyfreithiol sydd wedi cymhwyso’n briodol wrth benderfynu ynghylch pa fath o gytundeb neu ddaliadaeth sydd fwyaf addas. Gallwch ddod o hyd i gyfreithiwr yn eich ardal leol sy’n arbenigo ar y gwasanaethau rydych chi eu hangen ar wefan Cymdeithas y Gyfraith.

Dyma’r prif opsiynau ar gyfer daliadaeth:  

  • Rhydd-ddaliadaeth – Prynu eiddo fel perchennog llawn drwy ddogfen gyfreithiol a fyddai’n cynnwys y safle cyfan neu gyfran rannol yn y safle am bris llawn y farchnad neu ostyngiad. Gellir defnyddio cyfamodau i gyfyngu ar ddefnydd neu amodau gwerthu yn y dyfodol - er enghraifft, gellid sefydlu cyfamod i sicrhau bod y safle’n parhau er budd y gymuned ac at ddibenion chwaraeon yn unig.
  • Prydles Hir – Prydles hir a gaiff ei dyfarnu efallai am bris isel neu am bris prynu, dros gyfnod hir o amser fel rheol. Gall gynnwys ffi gwasanaethu neu rent tir ac fel rheol mae gan y Prydlesai gyfrifoldebau fel perchennog rhydd-ddaliadaeth.
  • Prydles – Cymryd prydles am gyfnod penodol o flynyddoedd am rent blynyddol, yn amodol ar amodau amrywiol. Dyma drefniant cyffredin i glybiau chwaraeon ac mae hyd y brydles yn amrywio fel rheol rhwng 1 a 25 mlynedd. Gall y brydles gynnwys amodau sy’n cyfyngu ar sut gellir defnyddio’r ased, fel dim ond defnyddio’r safle at ddibenion hamdden a chwaraeon.
  • Trwydded i breswylio – Caniatâd ar gyfer hawl heb fod yn eithriol i breswylio am gyfnod penodol. Gelwir y rhain fel rheol yn gytundebau defnyddiwr a ffafrir ac maent yn gyffredin ar safleoedd a reolir gan Awdurdodau Lleol sy’n ofod agored cyhoeddus neu sydd â mwy nag un defnyddiwr. Fel rheol mae’r cytundebau hyn yn cael eu dyfarnu am gyfnod byr o amser ac nid ydynt yn cynnig llawer o sicrwydd i glybiau chwaraeon, os o gwbl. Mae’n werth nodi nad yw’r rhan fwyaf o gyllidwyr yn ystyried hwn fel sicrwydd digonol i ennill cyllid.
  • Cytundeb Rheoli – Cytundeb sy’n manylu ar y cyfrifoldebau rheoli ond nid yw’n gontract eiddo. Fel rheol mae’n darparu manylion am sut i ddefnyddio’r safle, amodau ar gyfer mynediad cyhoeddus a chynnal a chadw’r safle. Gellir ei ddefnyddio yn lle prydles neu drwydded, neu ochr yn ochr â hwy, ac efallai y defnyddir cytundeb o’r fath mewn sefyllfa lle mae prydles hir yn amhosib ei chynnig. (Er enghraifft, efallai bod gan glwb criced Gytundeb Rheoli i gynnal sgwâr yn unig am fod gweddill y safle’n cael ei ddefnyddio gan glybiau chwaraeon eraill.)

Mae’n werth cofio y bydd y rhan fwyaf o’r cyllidwyr sy’n darparu grantiau cyfalaf eisiau gwybod pa fath o gytundeb sydd gennych chi a beth yw ei hyd. Bydd gan wahanol sefydliadau cyllido wahanol bolisïau ond dim ond rhydd-ddaliadaeth a phrydlesau a ystyrir fel ffurfiau derbyniol ar ddaliadaeth ddiogel gan rai.

Manteision TAC

Gall TAC gynnig llawer o fanteision i bob parti o’i weithredu ar y cyd. I lwyddo, rhaid rheoli’r broses yn dda a phennu amserlenni priodol. 

Y manteision i’r sefydliad sy’n gwneud y trosglwyddo:

  • Gwarchod yr asedau cymunedol rhag eu cau a sicrhau dyfodol tymor hir i’r gamp ar y safle
  • Creu a datblygu model busnes mwy cynaliadwy ar gyfer y safle
  • Gwella’r berthynas rhwng yr Awdurdod Lleol a’r gymuned leol
  • Pobl leol yn ymwneud â rhedeg a datblygu’r gwasanaethau a’r asedau maent yn eu defnyddio
  • Mwy o gyfleoedd i Grwpiau Cymunedol sicrhau buddsoddiad cyfalaf i ddatblygu’r asedau
  • Llai o gostau cynnal a chadw i’r cyngor.

 

Y manteision i’r clybiau chwaraeon a’r gymuned sy’n derbyn y trosglwyddo:

  • Darparu mwy o sicrwydd a rheolaeth dros eu cyfleusterau i glybiau chwaraeon a grwpiau cymunedol
  • Gwella safon y cyfleuster i fodloni disgwyliadau’r aelodau
  • Cyfleoedd i ehangu gweithgareddau’r clwb a chynyddu lefelau cymryd rhan
  • Bod yn gatalydd i fwy o gyfranogiad cymunedol drwy recriwtio mwy o wirfoddolwyr
  • Galluogi’r clwb i greu incwm ychwanegol a dod yn gynaliadwy yn ariannol gan ddibynnu llai ar grantiau
  • Gwella strwythurau rheoli a threfniadau llywodraethu’r clwb
  • Darparu gallu i glybiau weithio ar y cyd ac mewn partneriaeth â chwaraeon eraill
  • Cyfleusterau segur yn flaenorol ar gael i’r gymuned
  • Cefnogi’r economi leol drwy asedau a reolir yn lleol ac sy’n eiddo i’r gymuned leol

Gwybodaeth am sut mae Clwb Bocsio Llanrhymni wedi ffynnu ers dechrau rheoli ei gyfleuster.

Risgiau TAC

Mae risgiau wrth gwrs, yn enwedig os bydd y trosglwyddo’n cael ei reoli’n wael.

Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Oes gan y clwb gapasiti i reoli’r asedau? A oes ganddo weithlu/ gwirfoddolwyr a gwybodaeth i weithredu a chynnal cyfleuster?
  • Ydi’r clwb yn gallu fforddio ei gynnal? Ydi’r clwb yn gallu cynhyrchu digon o incwm i dalu costau o ddydd i ddydd yn ogystal â chynilion wrth gefn i fuddsoddi mewn prosiectau cynnal a chadw?
  • Ydi’r cyfleuster yn addas i bwrpas? Os nad oes buddsoddiad wedi bod yn y cyfleuster ers peth amser, efallai bod angen gwaith adnewyddu mawr. Fel rheol, nid yw’r math yma o waith yn gymwys am arian grant. Mae hyn yn golygu y dylai ased fod naill ai’n addas i bwrpas wrth drosglwyddo neu dylai’r Awdurdod Lleol ddarparu arian i dalu am y gwaith gofynnol.
  • Oes gan y clwb wirfoddolwyr ac adnoddau i reoli’r trosglwyddo? Gall proses TAC ei hun gymryd llawer o amser, hyd at sawl blwyddyn mewn rhai achosion. Oes gan y clwb wirfoddolwyr ac adnoddau i ymrwymo i’r broses dros gyfnod estynedig o amser?

Hyd yn oed os yw clwb yn teimlo o dan bwysau i dderbyn ased, ni ddylai wneud hynny os nad oes gan y prosiect botensial i fod yn hyfyw. 

 

Polisïau TAC Awdurdodau Lleol

Mae gan y rhan fwyaf o  Awdurdodau Lleol yng Nghymru gynllun Trosglwyddo Asedau Cymunedol. Dylai’r polisi gynnwys manylion am y broses o wneud penderfyniadau, y meini prawf ar gyfer asesu ceisiadau yn eu herbyn, yr amserlenni a’r dogfennau y bydd rhaid i ymgeiswyr eu cyflwyno.                  

Mae sawl awdurdod lleol sy’n mynd ati i weithredu TAC wedi creu swyddi penodol ar gyfer rheoli’r broses. Mae gan yr unigolion hyn wybodaeth fanwl am bolisi’r cyngor a’r broses ymgeisio a gallant gynghori clybiau drwy gydol y broses.                 

Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol i gael gwybod pwy sy’n gyfrifol am y maes gwaith hwn. Neu dylai eich Corff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol neu Chwaraeon Cymru allu helpu.                  

Bydd y broses ymgeisio’n amrywio mewn gwahanol Awdurdodau Lleol. Fel rheol, mae trosglwyddo’n cymryd rhwng blwyddyn a dwy flynedd i’w gwblhau, ond mae rhai achosion wedi cymryd hyd at saith mlynedd. 

Fel rheol, mae’r broses ymgeisio’n edrych fel hyn:             

  1. Yr Awdurdod Lleol yn hysbysebu cyfle TAC fel bod y partïon sydd â diddordeb yn ymwybodol o’r cyfle.
  2. Trafodaeth cyn ymgeisio’n cael ei chynnal rhwng y partïon sydd â diddordeb a’r Awdurdod Lleol, er mwyn deall amodau unrhyw drosglwyddo.
  3. Y parti sydd â diddordeb yn Mynegi Diddordeb cychwynnol i’r Awdurdod Lleol. Yn aml iawn mae’r Awdurdod Lleol yn darparu ffurflen safonol ar gyfer hyn.
  4. Yr Awdurdod Lleol yn adolygu’r Mynegi Diddordeb ac yn penderfynu a yw cais yn cael symud ymlaen i’r cam nesaf ai peidio. Byddai’r adolygiad yn ystyried a yw’r ymgeisydd yn gymwys ac a yw ei amcanion yn cyd-fynd â blaenoriaethau’r cyngor.
  5. Y parti sydd â diddordeb yn cyflwyno cynllun busnes manwl a llawn yn manylu ar sut bydd yr ased yn cael ei reoli a sut bydd yn darparu manteision i’r gymuned leol.
  6. Yr Awdurdod Lleol yn adolygu’r cynllun busnes ac yn penderfynu a fydd y trosglwyddo’n mynd yn ei flaen ai peidio.
  7. Trosglwyddo cyfreithiol ar yr ased yn mynd yn ei flaen drwy gytundeb a ffafrir.

Mae trafod a chyfathrebu rhwng y partïon yn hanfodol drwy gydol y broses er mwyn sicrhau bod popeth yn rhedeg yn esmwyth.                                                                                                                                                                                                                                         

Am fwy o wybodaeth am y broses TAC, cliciwch yma am Becyn Adnoddau Trosglwyddo Asedau Llywodraeth Cymru.

Darllenwch y stori yma am Glwb Bocsio Llanrhymni’n dod yn berchen ar gampfa’r clwb a’i rhedeg a’i rheoli.