Skip to main content

Trethiant

Gallai eich clwb wynebu risg os nad yw’n bodloni ei rwymedigaethau treth. Un lle da i ddechrau yw drwy adnabod y gwahanol ffurfiau ar dreth sy’n berthnasol i’ch clwb o bosib.  Wedyn gallwch ymchwilio ymhellach i’r meysydd hyn a gofyn am gyngor proffesiynol am beth sy’n berthnasol i’ch clwb chi, yn ôl yr angen.

Y ffurfiau mwyaf cyffredin ar drethiant y byddai clwb yn cael ei effeithio ganddynt yw:

TrethGorfforaeth

Os yw eich clwb yn masnachu ac yn gwneud elw, gallai’r elw hwnnw fod yn drethadwy, yn amodol ar dreth gorfforaeth. Bydd rhaid i chi ffeilio ffurflen treth gorfforaeth a chyfrifiad treth, a thalu’r dreth gorfforaeth, o fewn 9 mis i ddiwedd eich blwyddyn ariannol. Mae cyfrifiad treth yn gyfrifiad sy’n mesur faint o dreth sy’n ddyledus, ar ôl addasu am eitemau trethadwy ac anhrethadwy o incwm a gwariant.

Os nad yw clwb yn ceisio gwneud elw ac os defnyddir unrhyw warged a wneir er lles ei aelodau, mae hyn fel rheol wedi’i eithrio o dreth o dan y cysyniad 'Cydfasnachu'

I gael rhagor o wybodaeth am Dreth Gorfforaeth, ewch i Wefan y Llywodraeth. 

Treth Ar Werth (TAW)

Mae TAW yn gallu bod yn faes cymhleth ac nid yw dim ond cofrestru eich clwb ar gyfer TAW yn golygu y bydd eich clwb yn gallu adfer yr holl TAW ar y pethau mae’n eu prynu.          

Mae’n hanfodol felly eich bod yn ymwybodol o’r prif faterion TAW sy’n berthnasol i’ch clwb chi, er mwyn cael eich manylion TAW yn gywir wrth adrodd yn ôl, ac i sicrhau eich bod yn gallu hawlio cymaint o TAW a phosib yn ôl. Hefyd, er mwyn osgoi cosbau drud a llogau. Cofiwch, mae osgoi talu TAW yn fwriadol, neu hawlio gormod o TAW yn ei ôl, yn dwyll  - sef trosedd cyfreithiol a allai arwain at erlyn, dirwy neu ddedfryd o garchar.                                                     

Gellir cael cyfarwyddyd cyflwyniadol ar TAW i fusnesau drwy fynd i Wefan y Llywodraeth. Os oes gennych chi unrhyw amheuaeth, gofynnwch am gyngor proffesiynol.

Treth incwm ac yswiriant gwladol Talu Wrth Ennill (PAYE)

Yn ogystal â threthi PAYE ac Yswiriant Gwladol sy’n cael eu casglu drwy eich cyflogres, efallai bod eich clwb yn atebol am y trethi hyn hefyd os yw’n darparu manteision trethadwy heb fod yn arian i’w gyflogeion. Ymhlith y manteision o’r fath mae darparu defnydd o gar neu fan i’r cyflogai neu dalu yswiriant iechyd ar ei ran.                       

TrethEnillionCyfalaf

Os yw eich clwb yn berchen ar asedau fel tir neu adeiladau, gall fod yn atebol am Dreth Enillion Cyfalaf ar unrhyw elw mae’n ei wneud.