Skip to main content

Rhagolwg llif arian

Mae cael digon o arian i dalu’r biliau drwy gydol y flwyddyn yn bwysig i unrhyw sefydliad a dydi eich clwb chi ddim yn wahanol!

Er bod eich clwb yn broffidiol o bosib, os na fydd gennych arian ar ôl, ni fyddwch yn gallu dal ati i weithredu!

Un adnodd i’ch helpu chi i gynllunio ar gyfer cael digon o arian i bara drwy’r flwyddyn yw’r rhagolwg llif arian. Mae cynllunio llif yr arian yn hynod bwysig o ystyried bod y rhan fwyaf o sefydliadau chwaraeon yn dibynnu llawer ar y tymhorau o ran gweithredu, a bydd yn eich helpu i benderfynu a oes gennych chi ddigon o arian ar gael i dalu’r costau ar unrhyw amser penodol. 

Pwyntiau i’w hystyried wrth baratoi eich rhagolwg llif arian:

  • Dylech seilio eich rhagolwg llif arian ar eich cyllideb flynyddol.
  • Rhannwcheichcyllideb yn 12misachofiwchystyriedprydrydychyndisgwylderbynincwmagwneudgwariant.
    • Efallai bod y ffioedd aelodaeth yn cael eu talu mewn mis penodol, ond efallai hefyd y bydd misoedd eto cyn y telir y ffioedd.
    • Efallai bod rhai cyflenwyr yn rhoi credyd o 30 diwrnod cyn bod rhaid talu.
    • Efallai y bydd oedi gyda rhywfaint o wariant nad yw’n hanfodol ar y gyllideb os oes prinder llif arian.
  • Cofiwch wneud yn siŵr bod balans penodol yn y banc bob amser ar gyfer unrhyw argyfyngau a all godi, a’ch bod yn cydymffurfio â pholisi arian wrth gefn eich clwb.

Unwaith eto, mae taenlen yn ffordd dda o ddatblygu rhagolwg llif arian. Os ydych chi’n teimlo y byddai templed yn ddefnyddiol, cliciwch yma.