Skip to main content

Polisi Arian Wrth Gefn

Dylai pob clwb - boed yn glwb rygbi masnachol mawr neu’n glwb pêl droed bach i blant - fod â pholisi arian wrth gefn yn ei le.                                               

Ond beth yw hwn? Yn syml, polisi yw hwn sy’n sefydlu swm addas o arian wrth gefn ar gyfer eich clwb.      

Bydd yn cynnwys y canlynol:

  • Rhestru’r rhesymau pam mae’r clwb angen cadw arian wrth gefn
  • Ystyried faint o arian ddylai’r clwb ei gadw wrth gefn

Dylech lunio eich cynlluniau ariannol yn seiliedig ar eich polisi wrth gefn, er mwyn gwneud yn siŵr bod eich clwb yn sefydlog. Mae bob amser yn ffordd dda o ddangos eich rheolaeth a’ch atebolrwydd ariannol cadarn i aelodau’r clwb a’i gefnogwyr.              

Er mwyn sefydlu’r swm priodol o arian wrth gefn ar gyfer eich clwb, bydd rhaid i chi edrych ar y canlynol:

  • Y gwahanol risgiau ariannol mae’r clwb yn eu hwynebu, ee llif arian, digwyddiadau na ellid eu rhagweld
  • Ei incwm presennol ac yn y dyfodol, gan gynnwys dibynadwyedd yr incwm hwnnw
  • Ei wariant presennol ac yn y dyfodol, gan gynnwys unrhyw eitemau cyfalaf, fel offer neu gyfleusterau
  • Yr arian sydd ei angen er mwyn cyflawni amcanion y clwb

Wrth ddatblygu eich polisi wrth gefn, bydd rhaid i chi ystyried yr uchelgais yn y tymor byr a’r tymor hir ar gyfer y clwb, a hefyd unrhyw risgiau rydych chi’n eu hwynebu gyda’ch incwm disgwyliedig. Bydd hynny’n eich helpu chi i benderfynu ar y swm priodol o arian wrth gefn y bydd arnoch ei angen.