Skip to main content

Rolau clwb

Cadeirydd  

Mae Cadeirydd unrhyw sefydliad yn rôl hanfodol ac mae hyn yn wir yn sicr am unrhyw glwb chwaraeon. Dyma’r swydd sydd wrth y llyw yn y clwb gan lywio ei gyfeiriad ar gyfer y dyfodol.         

Rhagor o wybodaeth...

Ysgrifennydd y Clwb

Mae Ysgrifennydd y Clwb yn rôl greiddiol. Dyma ganolbwynt y gweinyddu yn y clwb, gan roi sylw i’r holl ohebiaeth. Mae’n rôl uchel ei phroffil sy’n cael effaith fawr ar ddull effeithlon ac effeithiol o reoli’r clwb.     

Rhagor o wybodaeth...

Swyddog Lles y Clwb  

Mae Swyddog Lles unrhyw glwb yn rôl bwysig iawn. Y gwaith yw helpu gyda diogelu ac amddiffyn plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed.                          

Rhagor o wybodaeth...

Swyddog Codi Arian

Mae swyddog codi arian yn goruchwylio strategaeth codi arian y clwb. Yn aml iawn, mae clwb angen arian ychwanegol, yn enwedig os yw’n cynilo ar gyfer prosiect newydd neu i sefydlu tîm neu adran iau newydd. Mae’r rôl yn aml yn cynnwys trefnu digwyddiadau hwyliog a chymdeithasol a hefyd llenwi ffurflenni cais am grant a threfnu cytundebau nawdd gyda busnesau lleol.

Rhagor o wybodaeth...


Swyddog Marchnata

Gall y swydd yma fod ag enwau eraill, fel Swyddog Hyrwyddo neu Swyddog y Wasg. Mae’r swydd yn un bwysig oherwydd mae’n hybu gweithgareddau’r clwb gyda’r nod o gynyddu aelodaeth ac incwm y clwb neu wella ei enw da.                                  

Rhagor o wybodaeth...


Cydlynydd Gwirfoddolwyr

Mae’r Cydlynydd Gwirfoddolwyr yn rôl allweddol mewn unrhyw glwb chwaraeon. Y person yma sy’n benodol gyfrifol am gefnogi’r gweithlu gwirfoddol. 

darllen mwy


Trysorydd

Mae rôl y Trysorydd yn rôl allweddol gyda chyfrifoldeb am reoli cyfrifon a chyllid y clwb.

Rhagor o wybodaeth...


Cynrychiolydd Ieuenctid       

Mae rôl y Cynrychiolydd Ieuenctid yn rôl hanfodol i unrhyw glwb. Mae’n golygu bod Pwyllgor y Clwb yn cael adborth didwyll o bersbectif ifanc a chan ei aelodau iau. Hefyd mae’r Cynrychiolydd Ieuenctid yn annog yr aelodau iau i fod yn arweinwyr ifanc yn y clwb, gan hyfforddi a rhoi cyfrifoldebau iddyn nhw helpu gyda hyfforddi a digwyddiadau’r clwb. 

Rhagor o wybodaeth...

Swyddog Tegwch

Pwrpas swyddog tegwch yw sicrhau bod cyfleoedd teg a chyfartal yn cael eu sefydlu, eu cynnal a’u meithrin ar draws y clwb.                                  

Rhagor o wybodaeth...