Skip to main content

Micro Wirfoddoli

I ddechrau, beth yw ‘Micro Wirfoddoli’?

Mae’r Cyngor Cenedlaethol o Fudiadau Gwirfoddol (NCVO) yn diffinio ‘Micro Wirfoddoli’ fel “gwirfoddoli fesul ychydig heb unrhyw ymrwymiad i ailadrodd a heb fawr ddim ffurfioldeb, gan gynnwys gweithredoedd byr a phenodol sy’n dechrau’n sydyn ac yn gorffen yr un mor sydyn”

Felly, nid yw ‘Micro Wirfoddoli’ yn rhywbeth newydd o angenrheidrwydd, dim ond term sydd ddim yn cael ei ddefnyddio’n aml.

Yr hyn sy’n newydd yw sut mae posib gwneud y gwirfoddoli yma. Gyda datblygiadau mewn technoleg, mae mwy o gyfleoedd i bobl wirfoddoli o bell, yn hytrach na mewn lleoliad penodol.

Mae’r NCVO wedi dweud bod Micro Wirfoddoli yn cynnwys y nodweddion canlynol:

  1. Hyd – mae’n cynnwys tameidiau bach o amser
  2. Mynediad – mae’n hawdd dechrau arni a gweithredu
  3. Ar unwaith – mae’n dechrau’n sydyn ac yn gorffen yr un mor sydyn a does dim angen fawr ddim cynllunio
  4. Hwylustod – chi sy’n penderfynu pryd a ble
  5. Lefel y ffurfioldeb – dim angen cytundeb ffurfiol rhwng y sefydliad a’r gwirfoddolwr
  6. Amledd – gall fod yn un tro neu gael ei ailadrodd
  7. Gweithgarwch – mae’n cynnwys camau gweithredu ar wahân
  8. Lleoliad – gall fod ar-lein neu oddi ar-lein

 

Felly sut gallwch chi wneud i ‘ficro wirfoddoli’ weithio yn eich clwb?

I ddechrau, gofynnwch i chi’ch hun beth yw’r diwylliant gwirfoddoli yn eich clwb? Ydi’r bobl sy’n gwirfoddoli ar hyn o bryd wedi bod yn gwneud hynny ers blynyddoedd? Ydi eu gwirfoddoli’n dilyn patrwm pendant o ran diwrnod, amser a lleoliad? Y rhain yw hoelion wyth eich clwb a byddant yn parhau i chwarae rhan allweddol yn eich clwb.

Gall micro wirfoddoli gael ei ystyried fel rhywbeth cwbl wahanol – oherwydd does dim disgwyl i unigolion ymrwymo’n rheolaidd ac mae derbyn hyn yn hanfodol os yw ‘micro wirfoddoli’ am weithio i chi.   

Ar ôl derbyn hyn, un man cychwyn da yw nodi beth sydd angen ei wneud yn eich clwb ac a ydych yn teimlo bod hyn yn addas ar gyfer micro wirfoddoli.

Gwelir rhai esiamplau isod:

Tasg gwirfoddoli  Addas i Ficro Wirfoddoli a pham?Ble mae’r gwirfoddoli’n digwydd?
Archwilio Cyfrifon y ClwbYdi – tasg a gorffen, dim ymrwymiad parhaus Oddi ar y Safle (Gartref, rhyngweithio cyfyngedig gyda Thrysorydd y Clwb)
Creu Gwefan i’r ClwbYdi – tasg a gorffen, dim ymrwymiad parhaus Oddi ar y Safle (Gartref, dim angen unrhyw ryngweithio)
Rheoli Gwefan y Clwb  Na – bydd angen ymrwymiad parhausOddi ar y Safle (Gartref neu leoliad arall)
Paentio’r Ystafelloedd NewidYdi – tasg a gorffen, dim ymrwymiad parhaus Ar y Safle (Rhyngweithio wyneb yn wyneb gyda gwirfoddolwyr eraill)
Rheolwr y Tîm D13Na – bydd angen ymrwymiad parhausAr y Safle (Rhyngweithio wyneb yn wyneb gydag eraill)
Gwneud cacen ar gyfer digwyddiad yn y clwbYdi – tasg a gorffen, dim ymrwymiad parhaus Oddi ar y Safle (Gartref, dim angen unrhyw ryngweithio
Ysgrifennu cais am grant   Ydi – tasg a gorffen, dim ymrwymiad parhaus Oddi ar y Safle (Gartref, dim angen unrhyw ryngweithio

Os yw’r dasg yn addas ai peidio, rhaid rheoli unrhyw wirfoddoli a dylech sicrhau bod gennych strwythurau a phrosesau yn eu lle ar gyfer gwneud hynny.            

Gall Micro Wirfoddoli fod yn ffordd ddelfrydol o recriwtio a chadw gwirfoddolwyr ar gyfer eich clwb. Os byddant yn cwblhau’r dasg sydd wedi’i neilltuo iddynt ac os caiff eu cyfraniad ei werthfawrogi, a hwythau wedyn yn cael profiad gwirfoddoli gwerthfawr, gallai hyn arwain at eu gwneud yn hyderus ac yn awyddus i wirfoddoli eto.

Fel y dywedodd Lao Tzu: “Mae siwrnai o filoedd o filltiroedd yn dechrau gydag un cam” felly beth am wneud Micro Wirfoddoli yn gam cyntaf ar siwrnai gwirfoddoli person yn eich clwb chi?