Skip to main content

Gwirfoddolwyr, Yswiriant ac Manteision

Yswiriant

Mae yswiriant yn eithriadol bwysig i bob clwb chwaraeon. Nid dim ond at yswiriant i hyfforddwyr unigol mae hwn yn cyfeirio. Mae’n rhaid yswirio’r clwb yn ddigonol i dalu costau’r gweithgareddau mae’n eu darparu.  

  • Holwch eich corff rheoli cenedlaethol i weld a yw’n darparu yswiriant i glybiau. Os ydyw, mae’n bur debyg y bydd rhaid i chi fod yn aelod i fanteisio arno
  • Mae posib codi yswiriant gyda chwmni yswiriant preifat hefyd
  • Bydd arnoch angen ystyried yswiriant ar gyfer y canlynol:
    • atebolrwydd cyhoeddus
    • indemniad proffesiynol
    • damwain bersonol
    • offer chwaraeon
    • yswiriant meinwe meddal
    • meddygol preifat
    • yswiriant modur
  • gofynnwch am gyngor proffesiynol bob amser


Gwirfoddolwyr ac Yswiriant

  • Mae eich cwmni yswiriant yn debygol o fod angen manylion eich swyddi gwirfoddoli. Bydd rhaid i wirfoddolwyr weithio oddi mewn i ffiniau’r swyddi hyn i fod wedi’u hyswirio (bydd eich corff rheoli cenedlaethol neu eich asiant gwerthu yswiriant yn gallu eich helpu chi gyda diffinio pob rôl)
  • Dylech sicrhau bod gwirfoddolwyr yn ymwybodol o’r yswiriant sydd yn ei le – beth mae’n ei gynnwys ac unrhyw gyfyngiadau
  • Bydd rhaid i yrwyr gwirfoddol gael yswiriant car priodol os ydynt yn defnyddio eu ceir eu hunain – rhaid i chi weld copïau o drwyddedau gyrru a pholisïau yswiriant diweddar. Esboniwch y polisi iddyn nhw, yn enwedig os yw’r gwirfoddolwyr yn cael eu costau
  • Gwnewch yn siŵr bod gennych chi yswiriant priodol os yw gwirfoddolwyr yn gyrru cerbydau o eiddo’r clwb
  • Edrychwch eto ar unrhyw gyfyngiadau oedran perthnasol i’ch yswiriant
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud nodyn o bryd ddylech chi adnewyddu eich yswiriant. Mae hefyd yn syniad da adolygu eich anghenion yswiriant yn rheolaidd. Peidiwch â dim ond adnewyddu eich polisi – efallai bod eich anghenion wedi newid
  • Mae cael yswiriant fel hyfforddwr yn hollbwysig, yn enwedig o ran atebolrwydd cyhoeddus ar gyfer gweithgareddau hyfforddi mewn sefyllfaoedd perthnasol
  • Fel rheol, mae yswiriant atebolrwydd cyhoeddus yn rhan o gynnig aelodaeth ehangach gan Gorff Rheoli Cenedlaethol i hyfforddwyr, sydd hefyd yn cynnwys yswiriant damwain bersonol a mynediad heb gyfyngiad i adnoddau cefnogi. Mae pob corff rheoli’n wahanol felly cofiwch edrych beth sydd wedi’i gynnwys a chofiwch ddarllen holl delerau ac amodau’r polisi cyn cynnal unrhyw weithgareddau hyfforddi.
  • Hefyd mae Sports Coach UK yn darparu yswiriant aml-chwaraeon https://www.sportscoachuk.org/coaches/membership
  • Gofynnwch am gyngor gan rywun proffesiynol bob amser

 

Gwirfoddolwyr a Budd-daliadau (NCVO)

Os ydych chi’n derbyn budd-daliadau’r wladwriaeth, rydych chi’n cael gwirfoddoli yr un fath.

Er hynny, mae rhai rheolau y dylech fod yn ymwybodol ohonynt i wneud yn siŵr nad yw eich gwirfoddoli’n cael effaith ar y budd-daliadau rydych chi’n eu derbyn.  

Nod y cyfarwyddyd yma yw eich helpu chi i ddechrau gwirfoddoli drwy grynhoi beth rydych chi angen ei wybod a rhoi rhai atebion i rai o’r cwestiynau sydd gennych chi cyn i chi ddechrau gwirfoddoli.

Nid yw hwn yn cynnwys pob sefyllfa ac efallai y bydd gennych chi gwestiynau am eich amgylchiadau personol. Os ydych chi’n ansicr am eich sefyllfa mewn perthynas â’r rheolau, gallwch gysylltu â’ch Canolfan Wirfoddoli leol, neu dylech siarad â'ch hyfforddwr swydd neu eich cynghorydd budd-daliadau. Efallai y bydd Cyngor Ar Bopeth yn gallu helpu hefyd.